JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Codi arian ar gyfer eich grŵp

Mae sawl ffordd o ariannu grŵp cymunedol – os byddwch yn chwilio ar-lein, gallai’r syniadau a’r cyfleoedd eich llethu!

Dyma pam yr ydym yn dod â chyngor hanfodol, enghreifftiau perthnasol, a’r dolenni mwyaf defnyddiol ynghyd ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n gofalu ar ôl eu hamgylcheddau lleol.

Cyn dechrau, byddwch yn drefnus

Bydd angen i’ch grŵp cymunedol gael cyfansoddiad – i ddisgrifio’r hyn yr ydych yn ei wneud a sut rydych yn ei wneud – ynghyd â Chadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd o leiaf.

Pam mae cyfansoddiad yn bwysig? Mae’n galluogi pobl a sefydliadau eraill, yn cynnwys noddwyr posibl, i ddeall eich nodau a’ch amcanion. Mae hefyd yn ofyniad wrth gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac wrth agor cyfrif banc.

Os hoffech wneud cais am grantiau, bydd angen cyfrif banc grŵp arnoch. Dyma’r math o gyfrif sydd ar gyfer grwpiau cymunedol a chymdeithasau yn benodol, yn hytrach nag unigolion.

Mae’n syniad da cael mwy nag un llofnodwr ar eich cyfrif (tri yn ddelfrydol) rhag ofn y bydd pobl yn gadael y grŵp neu’n mynd ar wyliau. Mae hefyd yn synhwyrol osgoi cardiau credyd a gorddrafft.

Lawrlwythwch dempled o gyfansoddiad

Sut i ddod o hyd i gyllid

Y lle gorau i ddechrau yw Cyllido Cymru – y platfform newydd, wedi ei greu gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Gallwch chwilio am gannoedd y gyfleoedd cyllid grant a benthyciadau o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Defnyddiwch yr offeryn chwilio isod i ddod o hyd i arian sydd ar gael. Noder, bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllido Cymru i gael y manylion llawn (fe gewch eich cyfeirio i’r wefan).

Meddwl yn lleol!

Bydd gan eich Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) arbenigwyr ariannu wrth law fydd yn gallu eich cyfeirio i’r lle cywir i rannu cyfleoedd lleol a gallant roi cymorth uniongyrchol. Mae gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru fap rhyngweithiol gwych sy’n eich galluogi i chwilio fesul ardal.

Gallwch hefyd fanteisio ar y gymuned ehangach. Mae llawer o grwpiau’n cynhyrchu incwm drwy gynnal digwyddiadau blynyddol, megis ffeiriau Nadolig neu’r Pasg. Gall gwerthu tocynnau raffl, cardiau Nadolig, a hyd yn oed codi ffi aelodaeth gymedrol oll helpu i godi arian.

Ewch i wefan Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Siopau a busnesau

Gallech hefyd ystyried y siopau a’r busnesau ar eich stepen drws. Gallant eich cefnogi mewn tair ffordd allweddol:

Nawdd

Gallent noddi’r grŵp neu ddigwyddiad. Mwy na thebyg bydd busnesau lleol wrth eu bodd gyda’r hyn yr ydych yn ei wneud a byddant yn helpu os gallant. Efallai y byddant yn cynnig nawdd untro neu barhaus fel y mae timau pêl-droed a rygbi lleol yn cael eu noddi. Mae gan lawer o fanwerthwyr cadwyn broses ymgeisio debyg. Yn yr un modd, mae llawer o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn darparu grantiau bach y gellir eu defnyddio i noddi grwpiau lleol.

Cymorth mewn nwyddau

Peidiwch anghofio gofyn am gymorth mewn nwyddau – mae hynny’n golygu cyfrannu nwyddau neu wasanaethau yn hytrach nag arian. Mae grwpiau cymunedol wedi elwa ar amrywiaeth o gymorth mewn nwyddau dros y blynyddoedd, yn cynnwys dillad ac offer diogelwch. Mae rhai cwmnïau wedi bod yn falch o gynnig cymorth arbenigol hefyd mewn digwyddiadau ymarferol neu gydag ymholiadau cyfrifo.

Arian bagiau plastig untro

Mae’n ofynnol ar fanwerthwyr yng Nghymru gyfrannu eu helw o’r tâl am fagiau plastig i achosion amgylcheddol. Gallech fynd i siopau lleol a’u hannog i fuddsoddi eu harian bagiau plastig yn eu cymuned leol.

Gwylio ein gweminar

Gallwch ddal i fyny a’n gweminar creu incwm, wedi ei gynllunio i ysbrydoli grwpiau cymunedol sydd eisiau rhoi hwb i’w hydrechion codi arian. Ymunodd FAN Alliance a Grŵp Afonydd Caerdydd â ni, gan rannu ffyrdd llwyddiannus y maent wedi creu incwm trwy eu gweithgareddau. Cyflwynwyd y weminar hon yn Saesneg, ond mae trawsgrifiad llawn ar gael yn Gymraeg ar gais.

Ysbridoliaeth codi arian

Byddwn yn postio enghreifftiau o weithgareddau codi arian arloesol yma. Gallwch gael gwybodaeth am gynllun metel sgrap Grŵp Afonydd Caerdydd a chefnogaeth Pensarn Pickers gan fusnesau lleol.

Oes gennych chi stori llwyddiant codi arian yr hoffech ei rhannu? Cysylltwch â'r tîm.

Pensarn Pickers

Darllen rhagor
Aerial view of Pensarn
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13