A A A

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach, a leolir yng nghanol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi cymryd camau breision i hyrwyddo addysg amgylcheddol a gweithredu cymunedol. Trwy ei phwnc ysgol gyfan, arloesol, ‘Fi, Cymru a’r Byd Ehangach’, mae’r ysgol wedi meithrin diwylliant o gynaliadwyedd, archwilio ac eiriolaeth, gan wneud cyfraniadau sylweddol i ymwybyddiaeth amgylcheddol lleol a byd-eang.

Mae’r ysgol gynradd, sydd hefyd yn rhan o raglen Eco-Sgolion Cymru, yn grymuso’r genhedlaeth newydd o eco-ddinasyddion, dewch i ni ganfod sut…

Ymgysylltodd cymuned gyfan Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yn y gwaith o archwilio’r effaith y mae bodau dynol wedi ei chael ar yr amgylchedd. Cafodd y gweithgareddau eu hysbrydoli gan fodelau rôl fel Syr David Attenborough a Greta Thunberg, ynghyd ag “Eco-Arwr” yr ysgol ei hun, Miss Hawkins. Arweiniodd hyn at ddefnyddio Diwrnod y Ddaear 2024 i ddathlu eu cyflawniadau ar y cyd.

Cynhaliodd y disgyblion amrywiaeth o weithgareddau:

  • Archwilio Lleol: Archwiliodd “Eco-daith” yr ysgol heriau a chyfleoedd amgylcheddol yn eu cymuned, yn cynnwys astudiaeth o Afon Sirhywi. Cofnododd y dysgwyr lygredd yn ystod taith gerdded ffotograffiaeth ac estyn allan i Gyfoeth Naturiol Cymru i eirioli dros gadwraeth afonydd.
  • Effaith Ymarferol: Cynhaliodd y myfyrwyr ddigwyddiadau codi sbwriel a chyfrannu at welliant amlwg ar dir yr ysgol ac yn yr ardal leol. Cynyddwyd yr ymdrechion hyn gan yr ‘Heddlu Bach’, menter arloesol sydd yn cael ei arwain gan y myfyrwyr yn mynd i’r afael â baw cŵn a hyrwyddo perchnogaeth cŵn cyfrifol trwy brosiect LEAD Cyngor Caerffili.
  • Ymchwil Ymgysylltu: Ar draws y grwpiau blwyddyn, archwiliodd y plant faterion amgylcheddol tyngedfennol fel tranc anifeiliaid a dysgu am ffyrdd o ofalu am fywyd gwyllt. Adeiladodd y disgyblion fwydwyr, tai trychfilod, a chynefinoedd i ddenu peillwyr a rhywogaethau eraill.

Fe wnaeth sesiynau ymgysylltu rhieni ehangu cyrhaeddiad y fenter ymhellach, gan alluogi teuluoedd i wneud addewid i weithredu’n gynaliadwy.

Mae gweithredoedd yr ysgol hefyd wedi ysgogi newidiadau cadarnhaol yn y gymuned ehangach lle, er enghraifft, mae cymryd rhan mewn digwyddiadau codi sbwriel a phrosiect LEAD wedi cynyddu ymwybyddiaeth cymunedol ac wedi meithrin teimlad gwirioneddol o rannu cyfrifoldeb.

Mae rhandir llewyrchus yr ysgol wedi dod yn ganolbwynt ar gyfer dysgu amgylcheddol, gan greu cynnyrch ffres a rhoi cyfleoedd garddio ymarferol. Trwy rannu’r diweddariadau hyn trwy Class Dojo a Facebook, mae’r ysgol wedi annog cyfranogiad ehangach gan deuluoedd a’r gymuned, gan ennyn adborth brwydfrydig gan rieni a gofalwyr.

Trwy ei hymdrechion parhaus, mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yn esiampl o rym addysg a chydweithredu cymunedol i ysgogi newid amgylcheddol, gan sicrhau bod ei dysgwyr yn tyfu’n eiriolwyr dros ddyfodol gwyrddach.