Gweithgareddau ac ymgyrchoedd nodwedd
Edrychwch ar ein cyfleoedd diweddaraf a chanfod sut gallwch gymryd rhan yn gwella eich amgylchedd lleol.
Helpwch ni i greu darlun Cymru gyfan o wirfoddoli amgylcheddol gyda’n system adrodd ar-lein syml, eCyfrif Cymru.
Mynd i eCyfrif Cymru
Ymunwch â chynllun Cadwch Gymru’n Daclus a dechreuwch roi Credydau Amser i’ch gwirfoddolwyr!
Credydau AmserMae ein map Effaith Gymunedol yn amlygu ymdrechion anhygoel unigolion, grwpiau a sefydliadau angerddol, sy’n cydweithio i ddiogelu a gwella’r mannau yr ydym yn eu caru.
Mynd i'r Map Effaith GymunedolCefnogi grwpiau cymunedol bob cam o’r ffordd
Rydym yma i helpu cymunedau i ofalu am y mannau sy’n bwysig iddyn nhw. Ac rydym eisiau ei wneud yn haws i grwpiau lleol barhau i fynd a theimlo’n hyderus yn yr hyn maen nhw’n ei wneud.
Dyma pam rydym wedi creu ein Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr. Mae’n ofod syml, hawdd i’w ddefnyddio lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol, awgrymiadau a chanllawiau – i gyd mewn un lle.
Edrychwch ar yr adrannau isod i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch, neu ewch yn syth i’r Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr.
Mynd i’r Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr
Sefydlu grŵp cymunedol newydd
Os ydych chi a’ch ffrindiau neu gymdogion eisiau ymgymryd â digwyddiadau glanhau rheolaidd neu ofalu am ofod gwyrdd gyda’ch gilydd, gallwn ni eich helpu i ddod yn grŵp cymunedol ffurfiol.
Darganfod
Codi arian ar gyfer eich grŵp
Nid yw bob amser yn hawdd codi arian ar gyfer eich grŵp. Edrychwch ar ein cyngor, dolenni defnyddiol, ac enghreifftiau o arfer gorau am syniadau ac ysbrydoliaeth.
Darganfod
Cyhoeddusrwydd
Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau a’n cyngor diweddaraf i arddangos eich gwaith a denu sylw gwirfoddolwyr, noddwyr a chyllidwyr newydd.
Darganfod
Iechyd a diogelwch
Yr holl ganllawiau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i fynd allan a dechrau gwneud gwahaniaeth tra’n cadw eich hun ac eraill yn ddiogel.
Darganfod
Pecyn Cymorth Ymgyrch
Lawrlwythwch ddeunydd ymgyrchu am ddim i helpu’r problemau sbwriel yn eich ardal chi.
Darganfod
Newyddion diweddaraf

Cyflwyno Eco-Tots Cymru: ysbrydoli cenhedlaeth ieuengaf Cymru
Darllen rhagor
48 lleoliad yng Nghymru yn cael eu coroni gyda’r traethau a’r marinas gorau yn y byd
Darllen rhagor
Lansio prosiect Y Goedwig Hir Drefol i adfer coedwrych Cymru
Darllen rhagor
Trefnwch gasgliad Prosiect Ailwampio gyda Cadwch Gymru’n Daclus
Darllen rhagorTystiolaeth, arweiniad ac ymchwil
Mae polisi amgylcheddol yn aml yn gymhleth ac yn newid yn gyflym, ond mae newid gwirioneddol yn bosibl pan fydd tystiolaeth gref ar gael.
Mae ein data byw yn dangos materion sbwriel cyffredin, yn amcangyfrif nifer yr eitemau sy’n cael eu taflu fel sbwriel ym mhob man cyhoeddus, ac yn mesur glendid mewn cymunedau ledled Cymru.
Data sbwrielHelpwch ni i ddatblygu darlun ar draws Cymru o weithgareddau gwirfoddoli.
eCyfrif Cymru
Mae gennym dîm ymroddedig o arbenigwyr sy’n parhau i ymchwilio, monitro a dadansoddi materion ansawdd amgylcheddol lleol fel sbwriel a baw cŵn.
Problemau
Gwneud cyfraniad
Os hoffech wneud cyfraniad ariannol i Cadwch Gymru’n Daclus, gallwch wneud hynny yma.
Mae pob cyfraniad, boed yn fawr neu’n fach, yn ein helpu i gyflawni prosiectau amgylcheddol ymarferol a chreu mannau awyr agored iachach a hapusach ar eich stepen drws.
easyfundraising
Os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol, gallwch gofrestru eich tudalen easyfundraising eich hun gan ddefnyddio ein dolen gyfeirio arbennig Cadwch Gymru’n Daclus.
Bydd eich sefydliad yn ennill rhoddion am ddim, a bydd Cadwch Gymru’n Daclus hefyd yn derbyn bonws – felly mae pawb ar eu hennill.







