Archwilio effeithiau byd-eang y newid yn yr hinsawdd gyda Mbale, Uganda
Rhannu pryderon am yr hinsawdd a Hawliau’r Plentyn.
Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan?
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gydag ysgol yn Mbale, Uganda trwy brosiect PONT / Elusen Maint Cymru. Trefnodd PONT bod Eleanor, ein cydlynydd cyswllt â Mbale a’i chydweithwyr sydd yn athrawon, yn ymweld â ni.
Dysgodd yr ysgol gyfan gân yn Swahili a dysgu am Mbale cyn yr ymweliad a pharatoi cwestiynau am bryderon am yr hinsawdd, hawliau’r plentyn a diwylliant Affricanaidd. Testun Bl1 oedd Affrica, felly treuliodd ein Hymwelwyr y bore yn y dosbarth, yn sôn am yr anifeiliaid a newidiadau i’r hinsawdd.
Sut a pham y gwnaethoch benderfynu ar y targed hwn?
Fel ysgol roeddem eisiau cael dealltwriaeth am y ffordd y mae gwledydd eraill yn ymdopi â newid yn yr Hinsawdd a pha hawliau plant sydd wedi eu sefydlu – A oes ganddynt yr un anghenion â ni? Yn ddiweddar, cafodd rhai ardaloedd o Gymru lifogydd ac o’n gwers ddosbarth yn CA2, dioddefodd Mbale lifogydd dinistriol wnaeth effeithio ar eu cartrefi, eu bywydau a sefydlogrwydd economaidd hefyd. Crëwyd posteri fel rhan o Gystadleuaeth Cynhesu Byd-eang Torfaen.
Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?
Cododd ymwybyddiaeth o ddiwylliant arall a’r un pryderon yr ydym ni’n eu hwynebu e.e. Newid yn yr hinsawdd, llifogydd. Rydym yn hysbysu’r gymuned sut gallant gynorthwyo gartref, fel helpu i gymryd rhan mewn Diwrnod Gwyrdd sydd yn cynorthwyo pentrefi fel Mbale, gyda Phrosiect Plannu Coed. Mae rhieni a’r gymuned yn cael y wybodaeth ddiweddaraf trwy gylchlythyr yr ysgol, ac mae plant CA2 yn ysgrifennu llythyrau i’n hysgol bartner yn Mbale. Mae wedi cynyddu empathi ac ymwybyddiaeth y plant bod Newid yn yr Hinsawdd yn effeithio ar ein bywydau i gyd, ble bynnag yr ydym yn byw.
Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?
Ein nod yw parhau â’n Cysylltiadau, gan ganolbwyntio ar brosiect a pharhau i sefydlu Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ein cynllunio. Byddwn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o effeithiau newidiadau i’r hinsawdd a hawliau plant – yn arbennig yr hawl i gael addysg, dŵr glân, bwyd a lloches.
Fel ysgol, byddwn yn parhau i gefnogi’r elusen Maint Cymru, a chymryd rhan mewn Digwyddiadau Newid yn yr Hinsawdd.
Roedd yn wych clywed ein ffrindiau o Affrica yn dysgu enwau’r anifeiliaid i ni. Helpodd hyn fi i feddwl am ofalu am bopeth – coed ac anifeiliaid hefyd.
Eco-Gynrychiolydd y Dosbarth Blwyddyn 1
Pwysleisiodd ein hymwelwyr bwysigrwydd partneriaeth – pawb yn cydweithio dros yr un achos ar draws y byd.
Miss Galeozzi Eco-Gydlynydd
Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.
Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.
Sut mae’n gweithioCael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Lleihau Gwastraff Bwyd yn Ysgol Gynradd Waun Wen
Darllen rhagor
Ymladdwyr gwastraff bwyd
Darllen rhagor
Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur
Darllen rhagor








