CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Lleoedd Lleol ar gyfer NaturMannau gwyrdd

Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur

Rhannu

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn gynllun grant cyfalaf, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sy’n galluogi cymunedau yng Nghymru i greu natur ar eu stepen drws. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gyfranogiad cymunedol, yn benodol mewn ardaloedd difreintiedig, amgylcheddau trefol ac o amgylch trefi a’r rhai heb lawer o fynediad at natur. Mae pob pecyn yn darparu’r holl ddeunyddiau, offer a chefnogaeth arbenigol sydd eu hangen ar gymuned i greu gofod ar gyfer natur. Yn gyfnewid am hyn, mae’n rhaid i gymunedau sicrhau caniatâd y tirfeddiannwr, ac ymrwymo i gynnal y gofod natur am o leiaf pum mlynedd.

Holi ac Ateb

Mae Railways Gardens wedi ei adeiladu ar hen faes chwarae adfeiliedig yn Sblot. Cafodd y tir gwastraff ei drawsnewid yn hwb cymunedol gyda chabanau symudol ar gyfer digwyddiadau ac i fusnesau lleol eu defnyddio. Mewn ymgynghoriad cymunedol, nodwyd Railway Gardens fel lleoliad addas ar gyfer tyfu bwyd. Mae’r lleoliad sydd yn gyfan gwbl o goncrid yn ddelfrydol o ran hygyrchedd ond roedd angen cynefinoedd a bwyd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r prosiect yn cynorthwyo’r trigolion i ddatblygu sgiliau a hyder wrth dyfu bwyd; maent yn ailddosbarthu unrhyw gynnyrch dros ben i’r gydweithfa fwyd leol ac yn gwahodd grwpiau, ysgolion a sefydliadau o’r gymuned ehangach i gymryd rhan.

– Pum coeden ffrwythau brodorol, ac ategolion
– Tri gwely plannu mawr, uchel, pridd a chompost
– Llwyni sy’n blodeuo ac yn cynhyrchu ffrwythau, plygiau blodau gwyllt, bylbiau brodorol, perlysiau a hadau
– 20m o dyweirch blodau gwyllt
– Tŷ gwydr a storfa offer fetel, ddiogel
– Casgen ddŵr, bin compost, bocsys cynefin, mainc a delltwaith
– Offer llaw amrywiol, er mwyn gosod a chynnal a chadw’r ardd
– Cymorth ymarferol, cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth gan Cadwch Gymru’n Daclus a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i helpu gwirfoddolwyr i gynllunio, gosod a rheoli’r ardd yn y dyfodol.

Roedd derbyn barn y gymuned leol ar eu gweledigaeth ar gyfer yr ardd newydd yn hollbwysig ar gyfer datblygu’r safle.

Rhannwyd y gwaith o greu’r ardd yn nifer o brosiectau llai, er enghraifft, diwrnod adeiladu’r gwelyau plannu, adeiladu’r tŷ gwydr, adeiladu’r sied a phlannu. Daeth gwirfoddolwyr o gymuned Sblot i bob un o’r sesiynau hyn i helpu. Cawsant gyfle i gyfarfod eu cymdogion, dysgu sgiliau newydd a chael y boddhad o drawsnewid gofod a fu unwaith yn segur ac adfeiliedig yn hwb cymunedol ffyniannus.

Mae Railway Gardens wedi ei leoli mewn ardal o Gaerdydd sydd yn amrywiol yn ddiwylliannol ac yn ethnig. Yn ystod pob cam o’r datblygiad croesawyd gwirfoddolwyr o lawer o wahanol gredoau, ethnigrwydd, galluoedd corfforol, diwylliannau a lleiafrifoedd rhywiol a, gyda’i gilydd, fe wnaethant weithio i greu’r gofod.

Plannwyd coed ffrwythau, llwyni ffrwythau a llwyni gyda’i gilydd mewn gwelyau plannu uchel ynghyd â phlanhigion bwytadwy eraill, gan gynnwys riwbob a mefus.

Mae gwelyau plannu ar lefel y ddaear, a gynlluniwyd i helpu gyda draenio, yn lleoliad delfrydol ar gyfer y tyweirch blodau gwyllt a gosodwyd bocsys cynefin ar hyd y waliau allanol i greu gofod ar gyfer natur.

Mae’r pecyn datblygu bwyd wedi ysgogi cydlyniant a chynhwysiant cymunedol. Gall pobl leol o ethnigrwydd a chefndiroedd gwahanol gerdded i mewn o’r stryd a theimlo croeso ar unwaith mewn gardd sy’n cynnig ymdeimlad o gartref – lle gallant sgwrsio, dysgu neu fod yn bresennol yno, heb gael eu barnu.

Mae grwpiau amrywiol sy’n cynnwys y ‘Grŵp Tyfu’, ‘Sgwrsio gyda Chymdogion’ a’r ‘Clwb Rhywbeth’ yn rhoi rhywbeth i breswylwyr edrych ymlaen ato ac mae’n darparu cyfle i gwrdd â’u cymuned.

Mae’r ardd yn cynnig cyfle i weithio yn yr awyr agored, yn helpu i wella lles corfforol, lleihau ynysu cymdeithasol a gwella hapusrwydd pobl trwy weithgareddau amgylcheddol.

Mae’r prosiect hwn wedi helpu i gysylltu pobl â natur, wedi datblygu eu hyder ac wedi ennyn brwdfrydedd a chyffro aruthrol ar gyfer rhagor o welliannau amgylcheddol.

Mae cyllid eisoes wedi ei sicrhau i wella’r safle ymhellach.  Mae tŷ gwydr arall a mwy o dyweirch blodau gwyllt wedi eu gosod ac mae’r grŵp wedi dechrau adeiladu ystafell ddosbarth bob tywydd yn yr awyr agored i’w galluogi i gynnal mwy o weithgareddau a gweithdai.

Mae Green Squirrel wedi trefnu sesiynau rhannu sgiliau chwarterol ac maent yn disgwyl i fwy na 60 o bobl eu mynychu bob blwyddyn.  Mae’r Grŵp Tyfu yn cynllunio cyfres o sesiynau coginio tymhorol a bydd yr ardd ar agor bum diwrnod yr wythnos i’r cyhoedd ei mwynhau.

Green Squirrel has organised quarterly skill shares and expect more than 60 people to attend each year. The Growing Group are planning a series of seasonal cook up sessions and the garden will be open five days a week for the public to enjoy.

Rydym yn teimlo'n hynod freintiedig ein bod wedi derbyn y cymorth hwn gan Cadwch Gymru’n Daclus. Mae wedi helpu i drawsnewid ein gofod ac rydym eisoes yn gweld y buddiannau, gyda gwenyn, pili pala a gwyfynod yn ymweld â llysiau'n cael eu cynaeafu a'u coginio ar y safle! Ond mae hefyd wedi rhoi hwb aruthrol i'n hyder; roedd meddwl am wneud pethau fel adeiladu tai gwydr neu greu dol yn teimlo'n llethol ond gyda'r gefnogaeth garedig, ystyriol, hael a medrus gan ddim Cadwch Gymru'n daclus, rydym wedi datblygu ein sgiliau mewn cymaint o wahanol ffyrdd newydd. Er enghraifft, fe wnaethom adeiladu ail dy wydr a gosod dwy ddol bywyd gwyllt ar ôl dysgu sut i wneud hyn gyda chi!

Hannah Garcia Railway Gardens
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Powys

Darllen rhagor
Llun agos o ddeial rheiddiadur gwyn.

Y Pwll a’r Tu Hwnt Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast

Darllen rhagor
Grŵp o ddysgwyr ifanc wedi'u rhesi wrth pwll, o flaen sied gydag awyr las.

Grŵp Cymunedol Cyfarthfa

Darllen rhagor
A group of volunteers on a grass banking in front of houses, smiling with red and blue litter bags in the foreground.
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13