English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Digwyddiad Codi Sbwriel Diwrnod y Ddaear yn Ysgol Maes Owen

Rhannu
Tri pherson ifanc yn gwisgo festiau gwelededd uchel oren.

Digwyddiad Codi Sbwriel Diwrnod y Ddaear yn Ysgol Maes Owen

Daeth yr ysgol gyfan at ei gilydd yn Ysgol Maes Owen fel rhan o’u dathliadau Diwrnod Y Ddaear i gymryd camau gweithredu cadarnhaol dros yr amgylchedd drwy gynnal digwyddiad codi sbwriel cymunedol. Rhoddodd y prosiect gyfle i ddysgwyr gydweithio, gwella tiroedd eu hysgol a’r ardal leol a datblygu dealltwriaeth well o bwysigrwydd edrych ar ôl eu hamgylchedd. Trwy gasglu, didoli ac archwilio’r sbwriel, roedd dysgwyr yn gallu gweld effaith eu gweithredoedd yn uniongyrchol, gan ddatblygu gwaith tîm, llais y disgybl ac ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb amgylcheddol.

Dywedwch wrthym am eich prosiect:

Nod ein digwyddiad codi sbwriel ysgol gyfan oedd gwella tiroedd ein hysgol a’r ardal leol, gan annog dysgwyr i ymfalchïo yn eu hamgylchedd a chodi ymwybyddiaeth o sbwriel, cynaliadwyedd a’r effaith y gall ein gweithredodd bob dydd eu cael.

 

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?:

Gan ddefnyddio offer o Hwb Codi Sbwriel Dyfodol Disglair yn Rhyl, cymerodd pob dosbarth ran mewn digwyddiad codi sbwriel o gwmpas tiroedd yr ysgol a strydoedd cyfagos. Gweithiodd dysgwyr mewn grwpiau ochr yn ochr â staff, gan ddefnyddio menig a chodwyr sbwriel i gasglu a didoli sbwriel yn ddiogel. Rhoddodd hyn gyfle i bawb yn yr ysgol chwarae rôl weithredol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd o’u cwmpas.

 

Sut a phryd gwnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?:

Roedden ni wedi sylwi ar gynnydd yn y sbwriel ar lawr o gwmpas yr ysgol a theimlon ni bod angen i ni weithredu. Trafododd dysgwyr faterion amgylcheddol a rhannodd eu syniadau ynghylch sut y gallem wneud gwahaniaeth. Gyda’n gilydd, dewison nhw ddigwyddiad codi sbwriel  fel ffordd ymarferol a chyflawnadwy  o weithredu a gwneud gwelliannau gweladwy ar unwaith i’n hamgylchedd.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?:

Mae’r ardal o gwmpas ein hysgol bellach yn llawer glanach ac yn fwy diogel, ac mae’r prosiect wedi gwneud dysgwyr yn llawer mwy ymwybodol o faint o sbwriel sydd i’w gael yn ein hamgylchedd lleol yn ogystal â’r amrywiaeth o fathau o sbwriel sydd yno. Cafodd y dysgwyr sioc wrth weld rhai o’r eitemau, gan gynnwys sedd toiled, a darn mawr o ddeunydd insiwleiddio! Mae’r profiad wedi eu hannog i feddwl yn fwy gofalus am sbwriel a chanlyniadau gadael sbwriel ar ein holau.

 

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?:

Rhannon ni luniau o’r digwyddiad codi sbwriel yn ystod gwasanaethau a gwnaethom ddathlu a chanmol ymdrechion yr holl ddysgwyr a gymerodd ran. Yn ogystal, gwnaethon ni greu graffiau i gofnodi ac archwilio’r sbwriel roedden ni wedi’i gasglu a arweiniodd at ddarganfyddiad arbennig o gofiadwy; casglon ni yr un faint o bwysau mewn sbwriel ag y mae pengwin brenhinol yn ei bwyso!

Ein camau nesaf yw adeiladu ar lwyddiant y prosiect trwy drefnu digwyddiadau codi sbwriel rheolaidd, cyflwyno monitorau eco ym mhob dosbarth ac ymgorffori mwy o wersi a gweithgareddau o amgylch lleihau gwastraff ac ailgylchu.

 

A oes unrhyw beth arall yr hoffech chi rannu am y prosiect hwn?:

Roedd y prosiect wedi cryfhau gwaith tîm a rhoddodd gyfle go iawn i ddysgwyr fynegi eu barn a chymryd camau ar fater sy’n bwysig iddyn nhw. Mae wedi helpu’r dysgwyr i ddeall y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr, gan eu hannog i gymryd mwy o gyfrifoldeb am yr amgylchedd sydd o’u cwmpas. Yn bwysicach fyth, mae’r prosiect wedi helpu i ddatblygu synnwyr o falchder a gofal am ein hamgylchedd lleol yr ydym yn gobeithio y bydd y dysgwyr yn cario gyda nhw y tu hwnt i gatiau’r ysgol.

Roeddwn i’n hoffi helpu i lanhau ein hysgol achos mae’n gwneud i bawb deimlo’n hapusach ac yn falch.

AW Blwyddyn 6

Dangosodd y digwyddiad codi sbwriel pam mor ymgysylltiedig a llawn cymhelliant yw ein disgyblion pan fydd y dysgu’n ymarferol.

Mrs Thomas Athrawes
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Ysgol Gyfeillgar i’r Môr

Darllen rhagor
Pump o bobl ifanc o flaen sgrin yn rhoi cyflwyniad, maen nhw'n gwisgo lifrai coch a gwyn.

Noddi Hybiau Sbwriel gan McDonald’s

Darllen rhagor

Dileu sbwriel a gwastraff: Partneriaeth Co-star

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13