Cymru Hardd
Ein gweledigaeth fel elusen yw am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau. Mae Cymru Hardd, ein strategaeth ar gyfer 2022-2030, yn amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol i gyflawni’r weledigaeth hon, gan weithio’n agos gyda gwirfoddolwyr, y llywodraeth, sefydliadau corfforaethol a lleol.
Darllen ein StrategaethSbwriel a gwastraff
O dan faner Caru Cymru, rydym yn arwain ymdrechion i leihau sbwriel a gwastraff, ac yn cefnogi gweithgareddau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr.
Wrth i bawb gydweithio i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn greu cymunedau cryfach, iachach a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n planed.
Darganfod mwy
Mannau gwyrdd
Rydym yn gwybod bod mannau gwyrdd o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt, ac yn cynnig hafan hanfodol i ymlacio ac ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae mentrau y Goedwig Hir Drefol a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn creu ac yn adfer mannau gwyrdd sydd o fudd i natur a’n cymunedau.
Darganfod mwy
Rhagoriaeth amgylcheddol
Mae ansawdd amgylcheddol yn greiddiol i’n pwrpas.
Rydym yn gosod y safonau’n uchel ar gyfer mannau gwyrdd a thraethau yng Nghymru trwy ein hamrywiaeth o wobrau rhyngwladol gan gynnwys, Y Faner Werdd, Y Faner Las, Gwobrau Glan Môr a’r Arfordir Gwyrdd.
Darganfod mwy
Pobl ifanc
Gwyddom drwy flaenoriaethu ymgysylltu ag ieuenctid y gallwn sicrhau dealltwriaeth gynnar o effaith hirdymor eu hymddygiad a helpu i greu etifeddiaeth well i’r wlad ac i’r blaned.
Mae bron hanner miliwn o bobl yn rhan o’n rhaglenni addysg, wedi eu hannog bob cam o’r ffordd gan ein tîm arbenigol, sy’n rhoi arweiniad, adnoddau a hyfforddiant i’w helpu i ffynnu.
Darganfod mwy
Newyddion diweddaraf

Ffigurau newydd yn datgelu graddfa sbwriel yr haf ledled Cymru
Darllen rhagor
Mae 330 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, y nifer uchaf erioed, wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Baner Werdd 2026 wrth i’r wobr ryngwladol ddathlu 30 mlynedd
Darllen rhagor
Gweinidog Cabinet a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn uno i alw am haf o godi sbwriel
Darllen rhagor
Mae mwy na thri chwarter o ysgolion ledled Cymru yn cymryd camau dros yr amgylchedd
Darllen rhagor
Sêr ifanc yr hinsawdd yn cipio’r gwobrau uchaf
Darllen rhagor
Data sbwriel ar gyfer dyfodol glanach
Darllen rhagor
Cyflwyno Eco-Tots Cymru: ysbrydoli cenhedlaeth ieuengaf Cymru
Darllen rhagor







