CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Ydych chi wedi gweld ein cerflun o Snoopy?

Rhannu

Rydyn ni’n cymryd rhan yn nhaith Snoopy, ci mwyaf eiconig y byd, ar ‘A Dog’s Trail with Snoopy’ gan Dog’s Trust i hyrwyddo’r ymgyrch baw cŵn a gwaith ehangach Caru Cymru i gynulleidfa hollol newydd.

Rydyn ni wedi noddi cerflun o Snoopy, o’r enw ‘A Dog’s Day Out’, ar y llwybr celf cyhoeddus ysblennydd rhad ac am ddim sy’n arwain y ffordd ar draws Caerdydd, Caerffili a Phorthcawl rhwng dydd Gwener 8 Ebrill a dydd Sul 5 Mehefin 2022.

Gellir dod o hyd i’n cerflun o Snoopy ger caffi Summerhouse ym mharc Bute, lle rydyn ni’n cynnal digwyddiad codi sbwriel ‘Paws and Pick’ sy’n addas i gŵn ddydd Sadwrn 9 Ebrill, o 10am tan 12pm. Ar y diwrnod, byddwn yn darparu danteithion cŵn, bagiau baw cŵn a thatŵs dros dro o olion pawennau. Bydd hefyd ddigonedd o gyfleoedd i dynnu lluniau gyda’n bwrdd lluniau cŵn a’n fframiau hunlun (a’n cerflun anferth o Snoopy wrth gwrs!) i’w rhannu ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi’n ymweld â Pharc Bute gyda’ch ffrindiau pedair coes, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’n cerflun o Snoopy, a thynnwch lun ohono a’n tagio ni ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnodau #BagItBinIt #CaruCymru #ADogsTrail.

Trwy noddi cerflun o Snoopy, rydyn ni am annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a gadael olion pawennau yn unig pan fyddant yn crwydro gyda’u hanifeiliaid anwes.

Mae ein cerflun o Snoopy wedi’i ddylunio gan y darlunydd hyfryd o Gaerdydd, Emily Hilditch, ac mae’n cynnwys traethau sy’n croesawu cŵn, yr afon Taf a’i llwybrau, a Phont y Mileniwm sy’n arwain at un o’r nifer o barciau sydd yng Nghaerdydd. I ddathlu mannau gwyrdd amrywiol Caerdydd, bydd llawer o wahanol gŵn yn mwynhau eu diwrnod gyda’u perchnogion, yn nofio, yn rhedeg ar ôl peli, yn tyllu ac yn mwynhau’r bywyd gwyllt lleol yn y ddinas ac o’i chwmpas.

“Mae noddi cerflun o Snoopy fel rhan o ‘A Dog’s Day Out’ gan Dog’s Trust yn gyfle gwych i gysylltu Cadwch Cymru’n Daclus a’n hymgyrch baw cŵn â digwyddiad proffil uchel a hynod boblogaidd.

Trwy ein nawdd i gerflun Snoopy yn ‘A Dog’s Day Out’, rydyn ni’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o berchnogaeth cŵn cyfrifol i gynulleidfa hollol newydd. Mae dyluniad Emily wedi’i ysbrydoli gan leoedd gwych i fynd â’ch ci am dro yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ac mae hyd yn oed yn cynnwys perchennog ci yn cario bag baw ci.

Rydyn ni’n falch iawn o wneud ein rhan gydag ymgyrch Snoopy, ci mwyaf eiconig yn y byd, ac rydyn ni’n annog pob perchennog cŵn sy’n cymryd rhan i adael olion pawennau yn unig.

Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13