A A A

12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

Mae’n bleser gan Cadwch Gymru’n Daclus gyhoeddi bod 12 safle ledled Cymru wedi cael Achrediad blaenllaw Safle Treftadaeth y Faner Werdd ar gyfer 2024.

Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad cymunedau lleol, gwirfoddolwyr, a staff yn gwarchod arwyddocâd hanesyddol y mannau gwyrdd hyn, ynghyd â chynnal y safonau ansawdd amgylcheddol a hygyrchedd uchaf.

Derbyniodd un o’r safleoedd mwyaf newydd, Coed Penllergare, Abertawe, ymweliad arbennig gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, ddydd Mercher 4 Medi.

Cyfarfu’r Ysgrifennydd Cabinet â staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu am y safle. Mae Coed Penllergare, sydd yn llawn treftadaeth leol, yn ymuno â grŵp pwysig o safleoedd sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod eu nodweddion hanesyddol tra’n darparu cyfleoedd hamdden i’r cyhoedd.

Llongyfarchiadau i bawb yng Nghoed Cwm Penllergare sy’n chwifio’r Faner Werdd unwaith eto eleni. Mae hwn hefyd yn un o ddeuddeg safle y Faner Werdd yng Nghymru i dderbyn Achrediad Treftadaeth ychwanegol. Mae safleoedd y Faner Werdd mor bwysig – yn galluogi pobl i gael mynediad i fannau gwyrdd a mannau agored o ansawdd. Mae’n newyddion gwych bod gennym ddigonedd o leoliadau’r Faner Werdd i ddewis ohonynt yng Nghymru – gyda mwy o safleoedd cymunedol y faner werdd nag unrhyw wlad arall yn y byd.

Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Mae Achrediad Safle Treftadaeth Werdd yn cael ei ddyfarnu i fannau gwyrdd sydd nid yn unig yn cyflawni safonau Gwobr y Faner Werdd ond hefyd yn dangos rhagoriaeth yn y gofal a’r gwaith hyrwyddo elfennau treftadaeth sy’n eu gwneud yn unigryw. Nid oes angen i safleoedd fod wedi eu rhestru ar Gofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol Cymru ond fel arfer mae’n rhaid iddynt fod dros 30 oed. Caiff yr achrediad ei ardystio yng Nghymru gan Cadw a chaiff ei gynnig i safleoedd yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban,Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae Coed Penllergare yn ymuno ag 11 safle arall sy’n derbyn Achrediad Treftadaeth Werdd ar gyfer 2024, yn cynnwys; Parc Bute yng Nghaerdydd, Parc Gwledig Bryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Mynwent Wrecsam a Champws Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Fel beirniad y Faner Werdd, rwyf wrth fy modd yn gweld un o’n mannau gwyrdd achrediedig yn derbyn Achrediad ychwanegol Treftadaeth y Faner Werdd, gan ddathlu cymhwyso sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yr holl staff a’r gwirfoddolwyr yn y safle. Mae Gwobrau’r Faner Werdd i gyd yn ymwneud â rhoi pobl mewn cysylltiad â’r mannau gwyrdd gorau, ac mae Penllergare, ynghyd â’r 11 safle achrededig arall eleni yn enghreifftiau gwych o hyn.

Andrew Stumpf
Cadeirydd Ymddiriedolwyr Cadwch Gymru’n Daclus a beirniad y Faner Werdd

Mae’r Ymddiriedolaeth yn falch iawn o dderbyn statws Treftadaeth y Faner Werdd a chadw ein Baner Werdd am flwyddyn arall. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dystiolaeth o waith anhygoel ein gwirfoddolwyr a’r tîm yma yn Penllergare. Rydym yn falch fod ein gwaith i adfer y safle hanesyddol hwn a dweud ei stori gyfareddol wedi cael ei ddathlu.

Paul Baker
Cadeirydd Ymddiriedolwyr Coed Penllergare

Darganfyddwch ble mae’r parc Baner Werdd agosaf i chi

Mae rhestr lawn o’r holl fannau penigamp y gellir ei lawrlwytho isod. Neu ewch i’n map i chwilio am eich parc neu fan gwyrdd y Faner Werdd yn lleol.

Ewch i’r map

Ymunwch yn y dathliadau ar y cyfryngau cymdeithasol

I glywed y newyddion diweddaraf, dilynwch @GreenFlagWales ar y cyfryngau cymdeithasol #BanerWerddCymru 

Am gymorth cyfathrebu, cysylltwch â’r tim ar comms@keepwalestidy.cymru  

Safleoedd gafodd Wobr y Faner Werdd yng Nghymru 2024/25

Erthyglau cysylltiedig

Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy
Mae Loteri Cymru Hardd wedi cyrraedd!

11/07/2024

Darllen mwy
Enwebiadau Gwobrau Cymru Daclus ar agor!

17/05/2024

Darllen mwy