JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Busnesau yn ymuno â’r rhwydwaith Hybiau Codi Sbwriel ar draws Cymru

Rhannu

A wyddoch chi fod gennym bellach dros 220 o hybiau codi sbwriel cymunedol ar draws Cymru?

Gall unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol yn ogystal â busnesau fenthyg cyfarpar codi sbwriel am ddim i lanhau eu hardal leol.

Mae’r rhwydwaith cynyddol o hybiau yn cynnig cyfarpar er mwyn glanhau yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel a chylchynnau, wedi ei sefydlu fel rhan o fenter Caru Cymru.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, caeodd yr holl hybiau ond dros y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi ailagor eu drysau nawr bod y cyfyngiadau wedi llacio.

Ymunodd dros 200 o fusnesau ledled Cymru â chynllun Ardal Ddi-sbwriel Caru Cymru y llynedd, gan ddefnyddio hybiau codi sbwriel i fenthyg cyfarpar i gyflogeion ei ddefnyddio.

Mae nifer y busnesau sydd wedi defnyddio’r hybiau dros y misoedd diwethaf wedi bod yn cynyddu’n raddol yn ogystal ag apelio at gymaint o’r busnesau hyn i sefydlu hyb sbwriel eu hunain.

Mae pob hyb sbwriel ar draws Cymru wedi eu mapio ar ein gwefan, sy’n ei wneud yn haws i grwpiau ac unigolion fenthyg cyfarpar o’r ardal leol.

Un busnes newydd i ddod yn hyb sbwriel yw Zero Waste Torfaen. Dywedodd Lauren Morse, y Sylfaenydd:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dod yn hyb codi sbwriel! Dechreuodd Zero Waste Torfaen fel gorsaf ail-lenwi eco-gyfeillgar o’r sied ar waelod fy ngardd ac mae wedi ehangu i fod yn siop dim gwastraff llawn. Rydym yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn Nhorfaen trwy leihau’r gwastraff untro yn y wlad. Mae llawer o bobl sydd yn gweithio gyda’i gilydd i wneud newidiadau bach yn cronni i fod yn rhywbeth enfawr. Os hoffech chi wneud gwahaniaeth i’ch cymuned, galwch heibio am fwyd ac adlenwadau cartref eco-gyfeillgar ac i logi cyfarpar codi sbwriel.”

Mae Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn enghraifft arall o fusnes sydd wedi helpu i hyrwyddo’r hybiau sbwriel. Dywedodd Claire Bates, y Rheolwr Gwasanaethau:

“Mae’n bleser ymuno â’r fenter hon, sydd â’r nod o gadw’r lleoedd sydd wedi bod mor bwysig i’n lles corfforol a meddyliol dros y blynyddoedd diwethaf yn lân ac yn ddiogel. Mae sbwriel nid yn unig yn bla yn ein hardal leol ond mae iddo hefyd ganlyniadau difrifol i fywyd gwyllt sydd yn byw ac yn ffynnu yn ein Parc Cenedlaethol. Mae gennym i gyd ran i’w chwarae yn mynd i’r afael â’r broblem hon, a nod yr hyb newydd yw darparu’r offer ar gyfer y gwaith.”

Allai eich sefydliad chi ymuno â’r rhwydwaith o Hybiau Codi Sbwriel?

Gofynnir i unrhyw fusnes neu sefydliad sy’n dymuno sefydlu hyb codi sbwriel i gysylltu â’u Swyddog Prosiect lleol trwy dudalen ein gwefan Byddwch yn cael hyfforddiant llawn, pecyn canllaw a chyfarpar codi sbwriel i’ch galluogi i sefydlu fel hyb.

Ardal Ddi-sbwriel

Busnesau sydd â diddordeb yn glanhau eich ardal leol, mae amser o hyd i ddod yn Ardal  Ddi-sbwriel, wedi ei dylunio i annog busnesau i gadw eu cymunedau yn ddi-sbwriel ac i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb i gofrestru eu diddordeb yma.

 

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13