A A A

D H Transport yn cefnogi ymgyrch sbwriel ar ochr y ffordd

D H Transport and Courier Services yw’r cwmni trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru i gefnogi ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus trwy annog gyrwyr i gadw eu cydwybod ac ochr ein ffyrdd yn glir.

Wedi eu lleoli yng Ngheredigion, mae’r cwmni dosbarthu yn teithio ar draws y DU, Iwerddon ac Ewrop ac yn annog gyrwyr i gadw eu cydwybod ac ochr ein ffyrdd yn glir rhag sbwriel.

Yn D H Transport and Courier Services, rydym yn falch o gefnogi ymgyrch cenedlaethol sbwriel ar ochr y ffordd Cadwch Gymru’n Daclus trwy fynd â’u neges ‘Gyrrwch eich sbwriel gartref’ ar y ffordd gan ddefnyddio ein cerbydau. Rydym yn parchu’r ffyrdd yng Nghymru a thu hwnt er mwyn diogelu’r amgylchedd, bywyd gwyllt, a golygfeydd hardd. Mae’n ofnadwy gweld ochr y ffordd wedi ei orchuddio â sbwriel pan mae mor hawdd dal ymlaen i’ch gwastraff tra’n gyrru a’i waredu pan fyddwch yn cyrraedd bin neu’n cyrraedd gartref. Rydym yn annog cwmnïau eraill yn y sector trafnidiaeth i ymuno â’r ymgyrch er mwyn helpu i gadw ochr ffyrdd yng Nghymru’n glir rhag sbwriel. Pan fyddwch allan ar y ffyrdd, peidiwch â gadael unrhyw beth ar eich ôl a gyrrwch eich sbwriel gartref.

Dywedodd Dan Horne yn D H Transport and Courier Services

Yn ogystal â hysbysebu awyr agored ar draws Cymru, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn chwilio am gwmnïau trafnidiaeth eraill i fynd â’u hymgyrch cenedlaethol ar y ffordd.

Cynhelir yr ymgyrch cenedlaethol fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a chynghorau i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Rydym yn falch iawn o groesawu D H Transport and Courier Services i’n helpu i weithredu’n llym ar sbwriel ar ochr y ffordd. Yn ystod arolwg diweddar yn 2021 o yrwyr masnachol ar draws y DU, roedd llawer o yrwyr yn teimlo bod prinder cyfleusterau i waredu eu gwastraff mewn mannau parcio lorïau, gorsafoedd gwasanaeth a phorthladdoedd. Ynghyd â’n partneriaid mewn awdurdodau lleol, rydym yn chwilio am ffyrdd o annog cyflogwyr gyrwyr masnachol i ddatblygu polisïau a chyfleusterau gwaredu gwastraff mewn canolfannau ac mewn cerbydau er mwyn lleihau’r pwysau i ollwng sbwriel. Gall defnyddio bin car di-arogl fod yn ddefnyddiol wrth fynd ar deithiau hir ac mae’n hawdd ei wacáu ar ôl dod gartref ond mae angen i ni ystyried sut gallwn hyrwyddo ymddygiad cyfrifol o ran gwastraff ar bob cam o’r daith. Rydym i gyd yn gwybod nad yw taflu sbwriel yn iawn, ac mae ein neges yn glir, ‘Gyrrwch eich sbwriel gartref’ a chadw eich cydwybod ac ochrau ein ffyrdd yn glir.

Dywedodd Jemma Bere, Rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus

Os ydych yn gyflogwr gyrwyr masnachol ac eisiau cefnogi’r ymgyrch, ebostiwch comms@keepwalestidy.cymru

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Erthyglau cysylltiedig

Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy
Gwaharddiad ar blastigau untro – beth nesaf?

30/10/2023

Darllen mwy