GWOBRAU CYMRU DACLUS 2026: ENWEBIADAU NAWR AR AGOR

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruPolisi ac ymchwilSbwriel a gwastraff

Data sbwriel ar gyfer dyfodol glanach

Rhannu

Mae strydoedd, parciau a mannau cyhoeddus glân a diogel yn bwysig i ni i gyd. Mae ansawdd ein hamgylchedd lleol yn ffurfio’r ffordd rydym yn teimlo am ein cymunedau, tra’n dylanwadu ar ein lles, balchder dinesig a chyflwr bywyd gwyllt a natur lleol.

I ddeall lefelau sbwriel ac ansawdd amgylcheddol yn well ledled Cymru, fe wnaethom gynnal cynllun peilot o fethodoleg monitro sbwriel oedd newydd ei ddatblygu yn 2025. Enw’r fethodoleg hon yw Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol (neu GLÂN yn gryno), a ddisodlodd arolygon hanesyddol a ddefnyddiwyd i gasglu data sbwriel rhwng 2007 a 2024.

Pam rydym yn monitro sbwriel?

Mae GLÂN yn fethodoleg fodern wedi’i chynllunio i greu darlun cliriach, mwy cywir o ansawdd amgylcheddol ledled Cymru. Gan ddefnyddio mapio geo-ofodol ac arolygon manwl ar y ddaear, mae GLÂN yn helpu i nodi ble a pha broblemau sbwriel sy’n bodoli, a ble gallai fod angen gweithredu. Bydd y wybodaeth a gesglir yn dylanwadu ar, ac yn monitro effaith, polisi amgylcheddol, gan gynnwys mentrau fel Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig (CCE) a Chynlluniau Dychwelyd Ernes (CDE), tra’n helpu awdurdodau lleol a pherchnogion tir eraill i fonitro glendid mannau cyhoeddus.

Ble a phryd ydyn ni’n arolygu?

Mae arolygon GLÂN yn cael eu cynnal ar fannau sydd yn hygyrch i’r cyhoedd, gan gynnwys strydoedd, parciau, gorsafoedd trafnidiaeth, meysydd parcio a safleoedd dŵr ymdrochi. Mae pum arolygydd hyfforddedig yn gweithredu rhwng Ebrill a Thachwedd bob blwyddyn, yn cynnal dros 5,400 o arolygon ledled Cymru.

Sut ydyn ni’n gwybod faint o arolygon i’w cynnal?

Mae pob gofod sydd yn hygyrch i’r cyhoeddd yng Nghymru’n cael eu mapio yn erbyn meini prawf ar gyfer ymarferoldeb a diogelwch arolygu, sydd yn gyfwerth â rhyw 80,000 o safleoedd! Ni fyddai’n bosibl i ni ymweld â phob un o’r rhain mewn blwyddyn, felly rydym yn defnyddio hafaliad arbennig i gyfrifo isafswm y gofod sydd angen ei arolygu. Mae hyn yn sicrhau y gallwn fod â hyder o 90% bod ein data’n adlewyrchu awdurdodau lleol (a Chymru) yn gyffredinol, yn gywir. Rydym hefyd yn ystyried amddifadedd a data poblogaeth arall er mwyn sicrhau bod y data’n cynrychioli pob cymuned yng Nghymru yn deg, i roi ehangder cyfle i ni ar gyfer dadansoddi data.

Pa ddata mae GLÂN yn ei gasglu?

Mae GLÂN yn arbennig o werthfawr oherwydd ei ffocws ar sbwriel a’r “strydlun ehangach”. Mae arolygwyr yn cofnodi dros 80 o eitemau neu grwpiau o sbwriel, o ddeunydd pecynnu bwyd brys a bonion sigaréts i wydr wedi torri a baw cŵn, tra hefyd yn asesu dangosyddion ehangach fel graffiti, tipio anghyfreithlon a mwy! Gyda’i gilydd, mae hyn yn rhoi dealltwriaeth fanwl o’r hyn sy’n effeithio ar naws ardal a beth allai gael ei wella.

Sut gall data GLÂN gael ei ddefnyddio?

Mae methodoleg GLÂN wedi cael ei chynllunio i fod yn dryloyw, yn deg, yn gadarn ac yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu llywio gan ddata cyson, dibynadwy. Mae’r egwyddorion hyn yn ein galluogi ni (a phobl eraill!) i ddefnyddio’r data mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Yn ogystal â monitro glendid, gall y data gael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol neu berchnogion tir eraill i dargedu adnoddau a gwella effeithlonrwydd gweithredol, tra’n llywio gweithredu ataliol. Yn ogystal, gall data GLÂN gefnogi gwelliannau lleol ac mae’n cynnig mwy o welededd o ran y materion sy’n effeithio ar gymunedau.

Dros amser, bydd GLÂN yn creu darlun cenedlaethol o ansawdd amgylchedd, gyda phob ardal o Gymru’n cael ei arolygu dros bum mlynedd. Mae hyn, ynghyd â llawer o ddadansoddi a setiau data eraill (fel data o’n Map Effaith Gymunedol), yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lunio newid ledled Cymru, nawr ac i’r dyfodol.

Archwilio GLÂN

Gallwch ganfod mwy am GLÂN ac archwilio’r canlyniadau yn adran newydd ‘ddata sbwriel’ y wefan.

Gallwch ddysgu mwy am rai o’n materion sbwriel mwyaf cyffredin trwy fynd i’r tudalennau ‘polisi ac ymchwil’.

Cysylltwch â’r Tîm Polisi ac Ymchwil os oes gennych unrhyw gwestiynau. E-bostiwch leq@keepwalestidy.cymru.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13