Mae ein hadroddiad annibynnol wedi datgelu bod sbwriel deunydd pacio bwyd a diod ‘wrth fynd’ wedi ei ganfod ar 64.2% o strydoedd ar draws y wlad yn 2021-22.
‘Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd? yw’r adroddiad cyntaf o’i fath ers dechrau pandemig COVID-19. Mae’n dod â chanlyniadau ynghyd o filoedd o arolygon glendid strydoedd i roi ‘cipolwg’ ar sbwriel a materion eraill yn ymwneud ag ansawdd amgylcheddol.
Ymysg y mathau o ddeunydd pacio a gofnodwyd, canfuwyd sbwriel danteithion, yn cynnwys papurau melysion a phacedi creision, ar bron hanner y strydoedd. Roedd sbwriel diodydd yn dal ar y lefelau cyn y pandemig ac wedi ei ganfod ar 44% o’r strydoedd.
Fel llawer o elusennau amgylcheddol, yn cynnwys ein cyfoedion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydym o’r farn y gallai gweithredu Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) yn y DU newid popeth o ran dileu sbwriel a gwastraff deunydd pacio.
Byddai cynllun EPR yn ei wneud yn ofynnol i gynhyrchwyr deunydd pacio dalu am drin neu waredu eu nwyddau. Bwriad hyn yw annog cynhyrchwyr i leihau gwastraff a hyrwyddo dylunio eu cynnyrch yn fwy cynaliadwy. Fel sydd yn wir gyda llawer o wledydd eraill Ewrop, mae’r cynigion presennol hefyd yn awgrymu y dylid cynnwys costau taflu sbwriel.
Am fwy o fanylion, yn cynnwys methodoleg yr arolwg, ewch i’n tudalennau Polisi ac Ymchwil.
Mae mynychder sbwriel deunydd pacio ar draws Cymru yn cryfhau’r achos ymhellach dros EPR. Nid awdurdodau lleol yn unig sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â sbwriel ac mae’n rhaid lleihau’r baich ariannol ar arian cyhoeddus. Gwyddom fod yr ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd ar EPR wedi cael cefnogaeth gref. Mae gan y cynllun arfaethedig y potensial i drawsnewid y ffordd y mae’r sector preifat yn cefnogi glanhau strydoedd, gweithredu cymunedol a gweithgareddau atal sbwriel. Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Does dim esgus dros daflu sbwriel ar rydym eisiau sicrhau bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb dros waredu eu gwastraff yn gywir. Rydym yn parhau i weithio gyda sefydliadau fel Cadwch Gymru’n Daclus i’w atal rhag digwydd yn y lle cyntaf er mwyn i bawb allu mwynhau ein cymunedau a’r golygfeydd rhagorol sydd gan Gymru i’w cynnig. Rydym yn cytuno gydag egwyddorion cynllun EPR a byddwn yn gwneud cyhoeddiad maes o law. Lee Waters Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Cynhaliwyd yr arolygon glendid strydoedd fel rhan o Caru Cymru – ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.
Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i lywio ymgyrchoedd y byddwn yn eu cynnal gydag awdurdodau lleol dros y flwyddyn sydd i ddod. Bydd y rhain yn cynnwys ymgyrch ar raddfa fawr i fynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd a rhoi atebion arloesol ar brawf i fynd i’r afael â sbwriel bwyd brys a phlastig untro.
I ganfod sut gallwch ymuno â mudiad Caru Cymru, ewch i’n hyb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru digwyddiadau Gwanwyn Glân Cymru – cynhelir ymgyrchoedd glanhau ar draws y wlad o 25 Mawrth i 11 Ebrill!
19/02/2025
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024