Eleni, mae llwyddiant y Faner Werdd wedi parhau gyda Gwobrau y Gorau o’r Goreuon a Dewis y Bobl 2024.
Mae pum cynllun o Gymru wedi ennill teitlau y Gorau o’r Goreuon mewn seremoni wobrwyo rithiol ar draws y DU ar 14 Tachwedd.
Mae’r anrhydeddau yn gwobrwyo staff, gwirfoddolwyr a phrosiectau sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rai o 2,227 o safleoedd Baner Werdd y DU.
Cafodd Rhandiroedd Ward Van yng Nghaerffili eu cydnabod am eu hymdrechion i gynyddu ‘Defnydd gan Ferched a Menywod’.
Mae ymchwil yn dangos bod menywod a merched yn llai tebygol o ddefnyddio mannau cyhoeddus yn bennaf oherwydd pryderon am ddiogelwch, sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles..
Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae gwirfoddolwyr o Randiroedd Ward Van wedi ei wneud yn genhadaeth i annog mwy o fenywod a merched i fwynhau eu man gwyrdd. Maent wedi creu ardaloedd tyfu llai, mwy hygyrch, wedi datblygu ‘man croeso’ wythnosol i fynd i’r afael ag unigrwydd a thlodi bwyd, ac wedi sefydlu grŵp cerdded i hybu lles pobl. O ganlyniad, mae’r aelodaeth wedi cynyddu 300%.
Enillwyr eraill y ‘Gorau o’r Goreuon’ oedd:
Ni ddylid byth cymryd mynediad i barciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel, sydd am ddim, yn ganiataol. Rydym i gyd yn gallu mwynhau’r mannau hyfryd hyn oherwydd ymroddiad staff a gwirfoddolwyr ledled Cymru. Mae gwobrau’r Gorau o’r Goreuon yn rhoi sylw i rai o’r prosiectau anhygoel sy’n digwydd ar safleoedd y Faner Werdd. Hoffem longyfarch ein henillwyr haeddiannol ar eu cyflawniad rhagorol. Lucy PriskCydlynydd y Faner Werdd
Lucy PriskCydlynydd y Faner Werdd
Cafwyd mwy o newyddion da wedyn, trwy gyhoeddi 10 Uchaf Dewis y Bobl.
Pleidleisiodd dros 21,000 o aelodau’r cyhoedd gan enwi Parc Gwledig Margam a Gardd Enfys ymysg y deg man gwyrdd gorau yn y DU.
Dyma’r unfed flwyddyn ar ddeg i Barc Gwledig Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot gael ei goroni’n enillydd Dewis y Bobl – cyflawniad gwirioneddol anhygoel.
Yn y cyfamser, mae Gardd Enfys yng Ngheredigion wedi mynd yn syth i’r deg uchaf ar ôl cyflawni Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf!
Ble bynnag y gwelwch Faner Werdd yn chwifio, byddwch yn gwybod eich bod yn ymweld â lle rhagorol gyda’r safonau uchaf.
Rydym yn cynnal y cynllun yng Nghymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Mae 291 o safleoedd y Faner Werdd ar draws y wlad – dewch o hyd i’ch un agosaf trwy fynd i’n map.
> Mynd i’r map
Ydych chi’n gofalu am barc neu fan gwyrdd o ansawdd gwych? A yw eich grŵp neu eich tîm yn haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol? Gallwch wneud cais nawr am Wobr y Faner Werdd neu Gwobr Gymunedol y Faner Werdd!
I ganfod mwy a gwneud cais, ewch i’n tudalennau Baner Werdd ar gyfer Parciau
(Mae’r ceisiadau’n cau ar ddiwedd Ionawr)
02/12/2024
19/11/2024
15/11/2024
04/07/2024