Mae eco bwyllgor gwych Ffederasiwn Ysgolion Cymunedol Blenheim Road a Coed Eva wedi ysbrydoli newidiadau enfawr ledled Torfaen, gan weithio gyda’r cyngor i newid bwydlenni ysgol.
Mae’r prosiect wedi bod mor llwyddiannus fel bod y Ffederasiwn wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cymru Daclus 2024!
Wrth gynnal eu Hadolygiad Amgycheddol, fel rhan o saith cam Eco-Sgolion, nododd y dysgwyr fod gwastraff bwyd yn broblem sylweddol yn eu hysgolion.
Dechreuodd eu hymchwiliad trwy olrhain y mathau o fwyd oedd yn cael eu gwastraffu yn yr ysgolion, gan bwyso biniau gwastraff bwyd, a chasglu data.
Ar ôl ymweld â chyfleuster prosesu bwyd, sylweddolodd y myfyrwyr mai atal gwastaff bwyd yw’r elfen bwysicaf.
Cydweithiodd eco bwyllgor y Ffederasiwn â Chyngor Bwrdiestref Sirol Torfaen i addasu bwydlenni ysgol. Y nod oedd cynnig opsiynau mwy apelgar a dileu eitemau oedd yn cael eu gwastraffu’n aml, fel newid tatws stwnsh i datws trwy’u crwyn.
Mae ein staff arlwyo bellach yn gweini prydau sy’n cael eu teilwra, fel y gall pawb ofyn am fwy neu lai o fwyd penodol. Rydym yn annog pob dysgwr i lenwi eu boliau a gadael platiau gwâg heb unrhyw wastraff! Maen nhw’n gwybod y bin cywir ar gyfer gwastraff bwyd, sut mae gwastraff bwyd yn pweru gorsafoedd pwer, a bod bwyd sy’n pydru yn y bin anghywir yn cael effaith sylweddol ar newid hinsawdd a nwyon tŷ gwydr.
Mae’r fenter wedi lleihau gwastraff bwyd yn yr ysgolion yn sylweddol. Mae hyn yn ei dro wedi cael effaith gadarnhaol ar ein cyllid ac mae llai o fwyd yn cael ei brynu nad yw’n cael ei fwyta a llai o wastraff sydd angen ei gasglu o’r ysgolion.
Mae’r prosiect wedi amlygu pwysigrwydd y dull gweithredu hwn i wneuthurwyr penderfyniadau yn Nhorfaen, yn cynnwys adrannau arlwyo ac addysg.
Mae hefyd wedi dangos mewn sawl cymuned ysgol sut mae penderfyniadau ynghylch beth sy’n cael ei brynu yn gallu cael effaith gadarnhaol mewn sawl maes, yn cynnwys disgyblion yn bwyta mwy, llai o wastraff bwyd, a chostau is.
Ein bwriad yw addysgu ein dysgwyr i leihau ein gwastraff bwyd mewn ysgolion ymhellach a datblygu ein llwyddiant presennol.
Ond nid yw gwaith yr eco bwyllgor yn dod i ben gyda gwastraff bwyd! Maent wedi ymrwymo i greu newid a gweithio gyda’r cyngor i leihau gormod o ddeunydd pecynnu a darparu prydau sy’n cael eu cyrchu’n amgylcheddol.
Fel ysgol, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb eco byd-eang o ddifrif. Rydym eisiau helpu i sicrhau mai Cymru yw rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu a’i fod yn cyrraedd targed sero net erbyn 2050! Alison Preece, Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Blenheim Road a Coed Eva
Alison Preece, Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Blenheim Road a Coed Eva
Rhannwch eich stori creu newid eich hun!
> Cyflwyno eich stori
Edrychwch pa weithgareddau y mae Eco-Sgolion yn eu gwneud ledled Cymru.