JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Dysgu Drwy Natur: Ysgol Caer Drewyn

Rhannu
Mae glöyn byw gydag adenydd oren llachar a gwythiennau duon yn eistedd ar flodyn porffor.

Ymestynnodd Ysgol Caer Drewyn ei gwaith amgylcheddol drwy wella tiroedd yr ysgol ar gyfer bioamrywiaeth, gwydnwch hinsoddol, a dysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys disgyblion mewn gweithgareddau megis plannu coed, arolygon bywyd  gwyllt a chasglu data hinsoddol. Gwnaeth y prosiect ddyfnhau cysylltiadau â’r gymuned, codi ymwybyddiaeth o rywogaethau lleol megis y  gylfinir a chefnogodd addysg amgylcheddol yn y tymor hir ar draws yr ysgol.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Gan adeiladu ar ein prosiect gwenyn y llynedd, canolbwyntion ni ar newid hinsawdd a gwella tiroedd ein hysgol i gefnogi dysgu, llesiant, a bioamrywiaeth. Cynhyrchodd ein swyddog bioamrywiaeth adroddiad i’n harwain, ac o hyn, gweithion ni gyda Chyngor Sir Dinbych i blannu clawdd newydd. Datblygodd hyn i ni blannu mwy o goed ar draws ystâd yr ysgol, y dref leol, a hyd yn oed ar waelod Caer Drewyn. Yn ogystal, gwnaethom blannu blodau a pharhau i ofalu am ein dôl flodau gwyllt er mwyn annog bywyd gwyllt.

Cwblhaodd ein Heco-Gyngor arolwg hinsawdd gyda chymorth Dysgu Drwy Dirweddau, gan ddefnyddio offer megis offeryn mesur dŵr ac anemomedr, a gafodd eu hariannu drwy grant. Derbyniodd staff hyfforddiant i ymgorffori eich offer i ddysgu yn yr awyr agored felly roedd pob disgybl yn gallu cymryd rhan.

Ymunodd dosbarthiadau iau â Phrosiect Gylfinir, gan weithio gyda phartneriaid allanol er mwyn codi ymwybyddiaeth am warchod gylfinirod. Roedd gweithgareddau’n cynnwys gwneud modelau, peintio cerrig ar gyfer llwybr lleol, digwyddiadau chwedleuwyr, a chyflyno eu gwaith yng Nghastell Y Waun. Arweiniodd hyn at gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr RSPB a chreu porthwyr adar i ddenu rhywogaethau lleol a’u harolygu.

Mae ein gwaith amgylcheddol ehangach yn cynnwys codi sbwriel yn rheolaidd, mentrau ailgylchu ac eco-wasnaethau. Mae seneddau ein hysgol (grwpiau llais y disgybl) yn helpu i rannu syniadau ar draws pob oedran ac rydym yn defnyddio Seesaw i hysbysu a chynnwys rhieni.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Mae’r prosiect wedi dyfnhau ein dealltwriaeth o rywogaethau adar lleol a sut i’w gwarchod, gan gynnwys eu cadwyni bwyd a’u cynefinoedd. Drwy rannu’r wybodaeth hon gyda’r gymuned, rydym wedi codi ymwybyddiaeth y tu hwnt i’r ysgol. Mae gwella tiroedd ein hysgol wedi hybu bioamrywiaeth leol a chreu cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored ystyrlon i’r holl ddisgyblion, Yn ogystal, mae wedi ein hannog i ail-ymweld â gwerthoedd craidd eco megis lleihau ein defnydd o ddŵr a gwella ailgylchu.

Mae ein rhandir a gafodd ei adeiladu’r llynedd yn parhau i helpu’r disgyblion i ddysgu o ble mae bwyd yn dod ac mae’n cael ei gefnogi gan ein clwb garddio a gwersi yn yr awyr agored. Mae’r tiroedd bellach yn denu mwy o fywyd gwyllt, weithiau hyd yn oed cyn i ni gynaeafu ein cnydau! Wrth i’n coed dyfu, felly fydd effaith hir dymor ein hymdrechion ar natur ac addysg.

 

Sut ydych chi’n dathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Gwnaethom ddathlu’r Prosiect Gylfinir drwy gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig yng Nghastell Y Waun a rhannu ein llwybr cerrig wedi’u peintio ar y cyfryngau cymdeithasol yn lleol, a gafodd adborth cadarnhaol gan y gymuned. Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu parhau i ddatblygu tiroedd ein hysgol gan ddefnyddio argymhellion Tîm Bioamrywiaeth Sir Dinbych ac Iestyn Thomas. Mae hyn yn cynnwys gwneud cais am grant newydd i ychwanegu mwy o welyau uchel yn ardal y Cyfnod Sylfaen, gan ein helpu i gefnogi bioamrywiaeth a dysgu yn yr awyr agored ymhellach.

Rydyn ni’n creu llwybr gwyrddach i fyd gwell.

Miss Allyson Athrawes

Roedden ni wedi mwynhau defnyddio’r offer fel y mesurydd gwynt a’r chwiliedyddion i fesur tymheredd tiroedd ein hysgol. Roedd yn hwyl defnyddio offer newydd yn ein dysgu a dangosodd yr hyn y gallem ei wneud i helpu tiroedd ein hysgol.

Emma a Lola Dysgwyr
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Grŵp Afonydd Caerdydd

Darllen rhagor

Y Prosiect TAITH

Darllen rhagor
Map o'r ddaear, mae'r tir yn wyn a'r dŵr yn las.

Lleihau Gwastraff Bwyd yn Ysgol Gynradd Waun Wen

Darllen rhagor
Grŵp bach o ddysgwyr, mae dau ohonyn nhw'n eistedd i lawr gyda hambwrdd bwyd, ac mae dysgwr arall yn sefyll y tu ôl iddyn nhw.
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13