Ydych chi’n angerddol am gadw Cymru yn lân ac yn hardd? Ydych chi eisiau cael effaith wirioneddol ar eich cymuned a’r amgylchedd? Ymunwch i godi arian i Cadwch Gymru’n Daclus!
Gydag easyfundraising, gallwch gefnogi ein gwaith heb godi bys. Ymunwch am ddim a dewiswch o fwy na 7,500 o fanwerthwyr ar-lein, yn cynnwys eBay, Argos, M&S a Pets at Home.
Bob tro byddwch yn siopa ar-lein trwy’r manwerthwyr hyn, bydd canran fach o’ch pryniant yn cael ei rhoi i Cadwch Gymru’n Daclus. Peidiwch â phoeni, ni fydd unrhyw gost ychwanegol i chi.
A rhwng 2 a 16 Rhagfyr, mae easyfundraising yn rhoi £1 ychwanegol am bob aelod newydd – felly dewch ymlaen? Ymunwch yma!
Ymunwch am ddim a dewiswch Cadwch Gymru’n Daclus
Lawrlwythwch yr ap ac ychwanegwch estyniad y porwr (fel nad ydych yn colli unrhyw gyfle i wneud cyfraniad!)
Gwnewch eich siopa ar-lein yn rheolaidd a bydd canran o’ch pryniannau yn cael ei roi i Cadwch Gymru’n Daclus yn awtomatig.
Ymunwch heddiw a dechreuwch godi arian i Cadwch Gymru’n Daclus.
Gyda’n gilydd, gallwn wneud Cymru yn lle glanach, gwyrddach i bawb ei fwynhau.
19/11/2024
15/11/2024
14/11/2024
04/07/2024