CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Eco-Sgolion

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu dros 20 miliwn o blant ar draws mwy na 100 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysg amgylcheddol fwyaf ar y blaned.

Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Darganfod y manteision Gwnewch gais am wobr
Mae grŵp o blant mewn ystafell ddosbarth yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ailgylchu. Mae un plentyn mewn ffrog gingham las yn rhoi eitem fach mewn bin ailgylchu coch, tra bod plant eraill yn gwylio. Baner werdd fawr gyda logo Eco-Sgolion y tu ôl iddynt.

Sut mae'n gweithio?

Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio trwy saith cam. Unwaith y mae ysgol wedi sefydlu’r broses hon ac wedi casglu tystiolaeth o’u cynnydd, gallant wneud cais am Wobr Eco-Sgolion – achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Dysgwch fwy am sut mae’n gweithio.

Cam 1

Ffurfio Eco-Bwyllgor

Bydd y grŵp hwn yn cynrychioli safbwyntiau’r ysgol gyfan ac yn gweithredu fel y canolbwynt a fydd yn gyrru’r gwaith ymlaen ac yn trafod y cynnydd.

Cam 2

Cynnal Adolygiad Amgylcheddol

Pwrpas yr adolygiad yw helpu’r Eco-Bwyllgor i feddwl am ffyrdd o geisio sicrhau bod yr ysgol yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd.

Cam 3

Datblygu Cynllun Gweithredu

Wrth greu’r cynllun byddwch yn medru sicrhau eich bod yn cynnwys nifer realistig o weithgareddau a gweithio allan sut i fonitro a mesur cynnydd eich gweithredoedd.

Cam 4

Monitro a Gwerthuso

Er mwyn canfod a ydych yn llwyddo i gyflawni’r targedau sydd yn eich cynllun gweithredu rhaid monitro a mesur eich cynnydd.

Cam 5

Hysbysu a Chynnwys

Mae’n bwysig bod cymaint o bobl ag y bo modd yn gwybod am eich gweithgareddau ac yn cymryd rhan ynddynt.

Cam 6

Creu Eco-Gôd

Mae Eco-Gôd yn ffordd hwyliog o grynhoi prif amcanion Eco-Bwyllgor yr Ysgol. Dylid ei gyflwyno mewn ffurf sydd yn ystyrlon i’r disgyblion a’r ysgol gyfan.

Cam 7

Cysylltu â’r Cwricwlwm

Drwy sicrhau bod y broses Eco-Sgolion yn cael ei gysylltu â chwricwlwm yr ysgol yn hytrach na’i gadw’n weithgaredd ar wahân ar gyfer y grŵp bach sydd ar yr Eco-Bwyllgor fe gyflwynir ADCDF.

Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Saith cam i lwyddiant

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio

Cael eich ysbrydoli

Dewch i ddarllen ein straeon ysgogwyr newid diweddaraf – mae’n arddangos yr ymgyrchoedd a'r prosiectau ysbrydoledig sy'n cael eu harwain gan ddysgwyr mewn Eco-Sgolion ledled Cymru.

Gweld y cyfan

Grymuso pobl ifanc: Ysgol Gynradd Cwmfelinfach

Darllen rhagor

Vinty@Coety – Ailgylchu Dillad

Darllen rhagor
Mae dyn a nifer o blant yn pwyntio at sgrin fawr sy'n arddangos "VINTY@COETY".

Ysgol Y Cymer, Rhondda Cynon Taf

Darllen rhagor
Rhes o geir wedi'u parcio wrth ochr ffordd.
Grŵp o bobl yn plannu ac yn dyfrio coed ifanc mewn gardd.

Adnoddau

Rydym am ysbrydoli a grymuso pobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol.

Mae ein hadnoddau am ddim wedi’u cynllunio gan ein tîm addysg arbenigol ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a theuluoedd.

Gweld ein hadnoddau
Ein hysgolion

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Darganfod mwy
Her Hinsawdd Cymru
Golygfa o'r Ddaear o'r gofod yn y nos, gyda goleuadau dinas i'w gweld ar ochr dywyll y blaned.

Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.

Darganfod mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13