JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Pwyllgor Hinsawdd Ysgol Bro Banw

Rhannu
Poster o ddigwyddiad Ysgol Bro Banw, gyda dail, hufen iâ pridd a mwg.

Trefnodd y Pwyllgor Hinsawdd yn Ysgol Bro Banw ddigwyddiad cynaliadwyedd ysgol gyfan gan gynnwys gweithdai ar uwchgylchu, crefftau sero wastraff, a choginio gyda chynnyrch o’r ardd er mwyn hyrwyddo arferion ecogyfeillgar.

Mae’r prosiect wedi hybu ymgysylltu â’r gymuned, lleihau tlodi bwyd ac wedi ysbrydoli mentrau wedi’u ffocysu ar yr hinsawdd barhaus gan gynnwys dysgwyr, teuluoedd a chynulleidfaoedd lleol.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Trefnodd y Pwyllgor Hinsawdd ddigwyddiad ysgol gyfan yn ffocysu ar gynaliadwyedd, gan gynnwys gweithdai a gweithgareddau a ddysgodd ffyrdd syml i ailddefnyddio hen eitemau a choginio gyda chynnyrch o’r ardd. Roedd gweithgareddau’n cynnwys siop gyfnewid ar gyfer llyfrau, gemau a theganau; gwneud bagiau o hen grysau t, crefftio llyfrnodau sgrap ffabrig; adeiladu porthwyr adar o hen fygiau cerameg; creu bomiau hadau sero wastraff gan ddefnyddio llyfrau ysgol wedi’u stwnsio ; gwneud potiau planhigion o bapurau newydd; a pharatoi snac dymhorol o gynnyrch yr ardd (ffrittata). Gwnaeth pob dosbarth gymryd rhan, gan brofi’r holl weithgareddau ymarferol dan arweiniad y Pwyllgor Hinsawdd.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Mae ein digwyddiadau wedi bod mor llwyddiannus a bellach mae mwy o bobl yn defnyddio eich bocs ‘Bwyd i Bawb’, gan helpu i leihau tlodi bwyd. Yn ogystal, rydym yn rhedeg ‘Prosiectau Posau’ sy’n cynnwys rhieni ac aelodau’r gymuned, gan ddarparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chodi ymwybyddiaeth am yr heriau amgylcheddol rydym yn eu hwynebu.

 

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Roedd y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant bod y Pwyllgor Hinsawdd wedi cael gwahoddiad i’w gyflwyno i gynulleidfa fawr yng Nghynhadledd Cynaliadwyedd Neuadd y Gwendraeth. Yn dilyn hyn, mae pob grŵp blwyddyn wedi dechrau eu prosiectau ‘Posau Hinsawdd’ gan gysylltu â’r gymuned drwy hyrwyddo coginio gyda chynnyrch o’r ardd a chynhwysion lleol, milltiroedd bwyd isel. Yn ogystal, maen nhw wedi cyflwyno eu gwaith yng Nghynhadledd Ysgolion sy’n ffocysu ar y Gymuned y Cyngor Prydeinig yng Nghanolfan Halliwell.

Roedd yn braf iawn gweld yr holl bethau roedd pobl wedi’u gwneud ac roeddwn i’n mwynhau coginio’r ffrittatas. Roedden nhw’n anhygoel a daeth y rhan fwyaf o’r cynhwysion o’n gardd felly roedd hwn yn dda.

Noah Dysgwr

Daeth pawb yn bencampwr hinsawdd y diwrnod hwnnw!

Mrs Lock Athrawes
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Ysgol Y Cymer, Rhondda Cynon Taf

Darllen rhagor
Rhes o geir wedi'u parcio wrth ochr ffordd.

Siop ‘dros dro’ i ail-garu hen wisg ysgol

Darllen rhagor
Mae rhes o grysau lliwgar yn hongian ar grogfachau pren o wialen wen yn erbyn cefndir gwyn.

My Green Valley

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13