JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Seilwaith cyhoeddus

Nid yw’r ffordd rydym yn dylunio ein mannau cyhoeddus yn ymwneud ag estheteg yn unig.

Yn yr un ffordd ag y gall creu llwybrau cerdded a beicio yn ein dinasoedd effeithio ar ymddygiad trafnidiaeth a chymudo pobl, gallwn hefyd ‘ddylunio’ mannau mwy diogel a gofalgar sy’n effeithio ar y duedd i daflu sbwriel a throseddau eraill.

Deall y broblem

Mae mannau cyhoeddus yn aml yn llawn pethau fel biniau, goleuadau stryd, bocsys postio, blychau plannu, meinciau a llochesi bws. Yn anffodus, yn aml gall y nodweddion hyn fod yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol, taflu sbwriel, graffiti a fandaliaeth a gall eu harwynebau fod yn anodd eu glanhau.

Gall gwrthrychau sydd wedi’u cynllunio’n wael neu sydd wedi’u lleoli’n amhriodol ddal sbwriel ac mae rhannau diarffordd ac esgeulus o fannau cyhoeddus yn debygol o ddenu mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mynd i'r afael â'r broblem

Mae llawer o wahanol fathau o finiau ledled Cymru i’n helpu i gadw ein cymunedau’n lân. Mae prinder biniau yn aml yn cael ei ddefnyddio fel esgus i daflu sbwriel, ond nid yw biniau ar eu pen eu hunain yn datrys problem sbwriel.

Yn anffodus, mae biniau yn ddrud felly mae’n amhosibl eu darparu ym mhob man. Os nad oes biniau o gwmpas, mae angen i ni fynd â’n sbwriel a’n baw cŵn gartref gyda ni i gadw ein cymunedau’n lân.

I fod yn effeithiol, mae angen cynnal a chadw a gwacáu biniau’n rheolaidd. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cydnabod pwysigrwydd biniau i atal sbwriel, ac rydym yn credu y gall y bin cywir yn y lle cywir gael effaith fawr.

Explore other issues

Ansawdd aer

Darganfod

Baw cŵn

Darganfod
Reuban, y ci defaid Cymreig yn cerdded ar hyd llwybr troed yng nghefn gwlad

Sbwriel diodydd

Darganfod
Casgliad o boteli gwydr

Sbwriel morol

Darganfod
Sbwriel wedi ei olchi i fyny ar y traethlin

Sbwriel o’r awyr

Darganfod
Tân gwyllt yn y nos

Llygredd Plastig

Darganfod
Potel blastig ar y palmant

Gwm cnoi

Darganfod
Staen gwm cnoi ar balmant gerllaw bin

Sbwriel smygu a fêps

Darganfod
A discarded cigarette and packets on a street

Sbwriel cyffuriau

Darganfod
Nodwyddau wedi eu taflu mewn isdyfiant

Gorfodaeth

Darganfod
Cerddwr cŵn yn defnyddio bin

Tipio anghyfreithlon

Darganfod
Staff Cadwch Gymru’n Daclus yn tynnu oergell allan o lyn

Sbwriel ar ochr y ffordd

Darganfod
Deunydd pecynnu bwyd brys wedi ei daflu fel sbwriel ar ffordd

Problemau amgylcheddol eraill

Darganfod
Graffiti mewn isffordd
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13