JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Sbwriel cyffuriau

Mae sbwriel cyffuriau fel arfer yn cyfeirio at nodwyddau, chwistrellau ac eitemau miniog sydd wedi cael eu taflu. Gall hefyd gynnwys eitemau eraill y mae pobl yn eu taflu i ffwrdd o ganlyniad i gario neu gymryd cyffuriau, fel cynwysyddion ocsid nitraidd (NOx).

Mae sbwriel cyffuriau yn llai cyffredin nag eitemau’n ymwneud â bwyd a diod ond mae’n cael ei ganfod mewn ardaloedd pellennig penodol yng nghanol trefi ac mewn parciau.

0o safleoedd sbwriel cyffuriau yn ystod ein harolygon sbwriel ar draws Cymru y llynedd
Nodwyddau wedi eu taflu mewn isdyfiant

Deall y broblem

Yn benodol, gall chwistrellau wedi’u taflu fod yn beryglus iawn oherwydd gallant drosglwyddo heintiau a gludir yn y gwaed fel Hepatitis B & C a HIV. Mae’r firysau yma yn gallu cael eu pasio ymlaen os oes rhywun arall yn cael ei anafu gan y nodwydd. Mae strategaethau Llywodraeth Cymru a’r DU sy’n canolbwyntio ar dargedu a hyrwyddo Gwasanaethau Cyfnewid Nodwyddau wedi lleihau lledaeniad heintiau er bod rhywfaint o risg yn parhau. Daw’r risg o anaf ddim yn unig o nodwyddau sy’n cael eu taflu yn yr amgylchedd y tu allan. Gall anafiadau hefyd ddigwydd os caiff nodwyddau rhydd eu rhoi mewn biniau sbwriel ar y stryd neu os ydyn nhw’n cael eu gadael pan gaiff cartrefi eu clirio.

Rhoi gwybod am y sbwriel cyffuriau

Os dewch chi o hyd i sbwriel sy’n ymwneud â chyffuriau mewn man cyhoeddus, peidiwch â rhoi eich hun na neb arall mewn perygl. Er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei lanhau, rhowch wybod i’r awdurdod lleol perthnasol amdano – gallwch ddod o hyd iddo yma. Os ydych chi’n dod o hyd i’r sbwriel yn y gogledd, rhowch wybod amdano drwy’r llinell sbwriel cyffuriau neu’r rhif rhadffôn (0808 808 2276).

Os cewch chi eich anafu gan nodwydd sydd wedi ei ddefnyddio, dilynwch y cyngor hwn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Nodwyddau wedi eu taflu mewn isdyfiant

Mynd i'r afael â'r broblem

Fel gydag unrhyw fath arall o sbwriel, mae atal y broblem yn allweddol. Mae gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, rhaglenni cyfnewid nodwyddau, elusennau a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a chynllunwyr trefi yn bwysig i’r gostyngiad strategol yn y defnydd o nodwyddau a’u gwarediad diogel.

Archwilio problemau eraill

Ansawdd aer

Darganfod

Baw cŵn

Darganfod
Reuban, y ci defaid Cymreig yn cerdded ar hyd llwybr troed yng nghefn gwlad

Sbwriel diodydd

Darganfod
Casgliad o boteli gwydr

Sbwriel morol

Darganfod
Sbwriel wedi ei olchi i fyny ar y traethlin

Sbwriel o’r awyr

Darganfod
Tân gwyllt yn y nos

Llygredd Plastig

Darganfod
Potel blastig ar y palmant

Gwm cnoi

Darganfod
Staen gwm cnoi ar balmant gerllaw bin

Sbwriel smygu a fêps

Darganfod
A discarded cigarette and packets on a street

Gorfodaeth

Darganfod
Cerddwr cŵn yn defnyddio bin

Tipio anghyfreithlon

Darganfod
Staff Cadwch Gymru’n Daclus yn tynnu oergell allan o lyn

Sbwriel ar ochr y ffordd

Darganfod
Deunydd pecynnu bwyd brys wedi ei daflu fel sbwriel ar ffordd

Seilwaith cyhoeddus

Darganfod

Problemau amgylcheddol eraill

Darganfod
Graffiti mewn isffordd
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13