JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Baw cŵn

Mae baw cŵn ar frig rhestr pryderon llawer o bobl o ran problemau ar ein strydoedd ac mewn mannau cyhoeddus eraill. Yn ogystal â’r ffaith ffaith bod baw cŵn yn cario bygiau niweidiol a all arwain at haint, asthma a hyd yn oed ddallineb, gall pob math o fwydod a bacteria fyw yn y pridd ymhell ar ôl i’r baw cŵn bydru.

Reuban, y ci defaid Cymreig yn cerdded ar hyd llwybr troed yng nghefn gwlad

Data baw cŵn

Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.

Mae’r ffigurau hyn yn dangos graddau baw cŵn ledled Cymru y llynedd mewn ardaloedd cyhoeddus gan gynnwys strydoedd, meysydd parcio, parciau a mannau gwyrdd, a thraethau dŵr ymdrochi dynodedig.

I weld holl ganlyniadau diweddaraf yr arolwg sbwriel, ewch i’n tudalen data sbwriel.

Data sbwriel

13.7%

o safleoedd â baw cŵn

214263

o achosion o faw cŵn wedi ei amcangyfrif

48.9%

o achosion o faw cŵn mewn bag

Ralph y daeargi yn eistedd ar gôl ei berchennog

Baw cŵn a’r gyfraith

Yn ôl y gyfraith, rhaid i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus. Os nad ydynt yn gwneud hynny, gallant dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig, sy’n rhoi cyfle iddynt i osgoi erlyniad gan y llys, trwy dalu swm o arian (yn yr achos hwn, am £75).

Mae codi baw eich ci yn hawdd, ac nid yw carthion ffres yn heintus. Er bod llawer o finiau baw cŵn o gwmpas, gellir cael gwared â baw cŵn mewn biniau sbwriel cyffredinol. Os nad oes bin gerllaw, dylid ei waredu’n gyfrifol yn ôl gartref.

Enghraifft o boster ymgyrch

Mynd i’r afael â’r mater

Yn 2025 fe wnaethom lansio ein hymgyrch ‘Gadael Olion Pawennau yn Unig’ i annog perchnogion cŵn i helpu i gadw ein mannau a rennir yn lân ac yn ddiogel. Roedd yn cynnwys deunyddiau pinc llachar wedi eu cynllunio i brocio pobl i wneud y penderfyniad iawn.

Cliciwch y ddolen i lawrlwytho ein Pecyn Cymorth Gadael Olion Pawennau yn Unig, neu ewch yn syth i’n safle Brandbag i lawrlwytho posteri a graffeg y cyfryngau Cymdeithasol #BagiwchBiniwch.

Lawrlwytho’r pecyn cymorth Ewch i Brandbag

Mae ein hymchwil yn dangos cysylltiad clir rhwng baw cŵn a statws iechyd y cŵn eu hunain. Bydd cŵn nad yw eu perchnogion yn cael gwared ar lyngyr yn rheolaidd yn gadael parasitiaid niweidiol yn eu carthion, sydd yn gallu bod yn beryglus i bobl, anifeiliaid anwes eraill, a bywyd gwyllt lleol pan fyddant yn cael eu gadael mewn mannau cyhoeddus. Mae bod yn gyfrifol pan fyddwch yn berchen ar gi – gan gynnwys cael gwared ar lyngyr yn rheolaidd a chlirio ar ôl eich ci– yn hanfodol i gadw ein cymunedau yn ddiogel.

Dr Russ Morphew Yn darllen biochemeg a pharasitoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Archwilio materion eraill

Ansawdd aer

Darganfod

Gwm cnoi

Darganfod
Staen gwm cnoi ar balmant gerllaw bin

Sbwriel smygu a fêps

Darganfod
A discarded cigarette and packets on a street

Llygredd Plastig

Darganfod
Potel blastig ar y palmant

Sbwriel diodydd

Darganfod
Casgliad o boteli gwydr

Sbwriel cyffuriau

Darganfod
Nodwyddau wedi eu taflu mewn isdyfiant

Gorfodaeth

Darganfod
Cerddwr cŵn yn defnyddio bin

Tipio anghyfreithlon

Darganfod
Staff Cadwch Gymru’n Daclus yn tynnu oergell allan o lyn

Sbwriel o’r awyr

Darganfod
Tân gwyllt yn y nos

Sbwriel morol

Darganfod
Sbwriel wedi ei olchi i fyny ar y traethlin

Sbwriel ar ochr y ffordd

Darganfod
Deunydd pecynnu bwyd brys wedi ei daflu fel sbwriel ar ffordd

Seilwaith cyhoeddus

Darganfod

Problemau amgylcheddol eraill

Darganfod
Graffiti mewn isffordd
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13