JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Sbwriel morol

Mae sbwriel morol yn cyfeirio at wastraff sy’n mynd i mewn i’n moroedd neu ar hyd yr arfordir. Mae’r holl sbwriel morol yn dod o weithgaredd dynol, gyda thua 80% o ffynonellau ar y tir ac 20% o ffynonellau morol fel llongau neu weithgaredd pysgota.

Mae ein rhwydwaith deinamig o ddyfrffyrdd (afonydd, llynnoedd, camlesi a’r arfordir) yn golygu ein bod i gyd yn gysylltiedig â’r môr, felly waeth ble rydym yn byw neu’n gweithio, mae ein gweithredoedd bob dydd yn cael effaith.

Sbwriel wedi ei olchi i fyny ar y traethlin

Data sbwriel morol

Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.

Mae’r ffigurau hyn yn amlygu sbwriel a gofnodwyd yn gyffredin ar draethau dŵr ymdrochi dynodedig yng Nghymru y llynedd.

Ar gyfer holl ganlyniadau diweddaraf yr arolwg sbwriel, ewch i’n tudalen data sbwriel.

Data sbwriel

40.3%

o sbwriel ar draethau yn offer pysgota

15.5%

o sbwriel ar draethau yn sbwriel melysion

5.3%

o sbwriel ar draethau yn fonion sigaréts

Offer pysgota wedi ei olchi i fyny ar y traethlin

Deall y broblem

Mae gwir effaith sbwriel morol yn fwy brawychus nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli – edrychwch ar y ffeithiau hyn sy’n agoriad llygad:

  • Nid yw sbwriel yn aros yn llonydd yn yr amgylchedd. Mae’n teithio trwy’r gwynt a’r glaw, mewn draeniau a charthffosydd, ac i lawr afonydd ac yn y pen draw, mae’n cyrraedd y môr.
  • Gall sbwriel morol achosi anaf neu farwolaeth i anifeiliaid morol ac adar y môr trwy gael eu dal ynddynt neu eu bwyta.
  • Mae’r economi dan fygythiad gan fod sbwriel morol yn effeithio ar dwristiaeth, cymunedau arfordirol, pysgodfeydd a gweithrediadau morgludiant.
  • Gall presenoldeb sbwriel morol gael effeithiau uniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol dynol.
The iconic Blue Flag flying over a Ceredigion beach

Mynd i’r afael â’r broblem

I fynd i’r afael â sbwriel morol, mae angen i ni asesu ein hymddygiad sbwriel a gwastraff a deall llwybrau sbwriel i mewn i’n hamgylcheddau morol.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cydlynu’r gwobrau arfordir yng Nghymru ac yn gweithio’n helaeth gyda’n partneriaid i sicrhau arfordir a glan môr glân, gwyrdd ac o ansawdd uchel.

Rydym hefyd yn rhan o Glymblaid Llythrennedd Cefnor Cymru – grŵp o sefydliadau sy’n gweithio i ddatblygu dealltwriaeth pawb o’u dylanwad nhw ar y cefnfor a dylanwad cefnforoedd arnom ni, trwy weithredoedd yn Y Môr a Ni – strategaeth llythrennedd morol i Gymru.

Mynd i wefan Y Môr a Ni

Archwilio problemau eraill

Baw cŵn

Darganfod
Reuban, y ci defaid Cymreig yn cerdded ar hyd llwybr troed yng nghefn gwlad

Sbwriel ar ochr y ffordd

Darganfod
Deunydd pecynnu bwyd brys wedi ei daflu fel sbwriel ar ffordd

Sbwriel diodydd

Darganfod
Casgliad o boteli gwydr

Llygredd Plastig

Darganfod
Potel blastig ar y palmant

Ansawdd aer

Darganfod

Gwm cnoi

Darganfod
Staen gwm cnoi ar balmant gerllaw bin

Sbwriel smygu a fêps

Darganfod
A discarded cigarette and packets on a street

Sbwriel cyffuriau

Darganfod
Nodwyddau wedi eu taflu mewn isdyfiant

Gorfodaeth

Darganfod
Cerddwr cŵn yn defnyddio bin

Tipio anghyfreithlon

Darganfod
Staff Cadwch Gymru’n Daclus yn tynnu oergell allan o lyn

Sbwriel o’r awyr

Darganfod
Tân gwyllt yn y nos

Seilwaith cyhoeddus

Darganfod

Problemau amgylcheddol eraill

Darganfod
Graffiti mewn isffordd
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13