Data sbwriel smygu a fêps
Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.
Mae’r ffigurau hyn yn dangos graddau’r sbwriel smygu a fêps ledled Cymru y llynedd mewn ardaloedd cyhoeddus gan gynnwys strydoedd, meysydd parcio, parciau a mannau gwyrdd, a thraethau dŵr ymdrochi dynodedig.
I weld holl ganlyniadau diweddaraf yr arolwg sbwriel, ewch i’n tudalen data sbwriel.
80.3%
o safleoedd â sbwriel smygu a fêps
75.3%
o safleoedd â bonion sigaréts
14.2%
o safleoedd â fêps
Deall y broblem
Nid oes llawer o ymwybyddiaeth o hyd am effaith amgylcheddol sbwriel smygu a fêpio. Mae camdybiaethau cyffredin hefyd.
- Mae bonion sigaréts yn rhyddhau cemegau gwenwynig i mewn i’r amgylchedd, ond maen nhw’n fach ac yn anodd eu glanhau. Mae eu maint yn golygu eu bod yn cael eu cario’n hawdd gan y gwynt a’r glaw i mewn i ddraeniau, afonydd ac yn y pen draw y môr.
- Gall bywyd gwyllt gamgymryd bonion sigaréts am fwyd, sydd yn gallu bod yn angheuol.
- Er gwaethaf cred gyffredin, nid yw hidlwyr sigaréts yn fioddiraddiadwy – maen nhw mewn gwirionedd wedi eu gwneud o blastig a gallant barhau yn yr amgylchedd am flynyddoedd lawer.
- Mae fêps yn cyflwyno risgiau tebyg. Maen nhw nid yn unig wedi eu gwneud o blastig, ond gall eu batris lithiwm ryddhau cemegau gwenwynig a chyflwyno perygl o dân pan gânt eu niweidio neu eu rhoi mewn cysylltiad â gwres.
- Mae fêps hefyd yn cynnwys metelau gwerthfawr sy’n cael eu colli pan gânt eu taflu yn hytrach na’u hadfer i gael eu hailddefnyddio.
Cam cadarnhaol: y gwaharddiad ar fêps untro
Daeth gwaharddiad ar draws y DU ar fêps untro i rym ar 1 Mehefin 2025 – cam mawr ymlaen i ddiogelu ein hamgylchedd.
Fe wnaethom groesawu’r newid hwn, ar ôl galw am waharddiad ers i fêps untro ymddangos ar y farchnad am y tro cyntaf.
Rydym yn gwybod nad gwahardd yw’r peth gorau na’r peth mwyaf poblogaidd i’w wneud bob tro. Ond fe wnaeth fêps untro greu problemau amgylcheddol difrifol nad oedd modd eu hanwybyddu, ac roedd angen gweithredu.
Rydym bellach yn cadw llygad agos ar yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Mae ein gwirfoddolwyr ac arolygon GLÂN yn ein helpu ni i olrhain effaith y gwaharddiad.
Darllen mwyArweiniad ac ymchwil
Archwiliwch broblemau eraill
Ansawdd aer
Darganfod
Baw cŵn
Darganfod
Sbwriel diodydd
Darganfod
Sbwriel ar ochr y ffordd
Darganfod
Gwm cnoi
Darganfod
Llygredd Plastig
Darganfod
Sbwriel cyffuriau
Darganfod
Gorfodaeth
Darganfod
Tipio anghyfreithlon
Darganfod
Sbwriel o’r awyr
Darganfod
Sbwriel morol
Darganfod
Seilwaith cyhoeddus
Darganfod
Problemau amgylcheddol eraill
Darganfod







