JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Llygredd Plastig

Mae plastig ym mhobman. Mae’n gryf, yn para’n hir ac yn rhad. Mae hyn yn dda ar gyfer rhai cynhyrchion y mae angen iddynt gadw bwyd neu eitemau eraill ond mae ein gorddibyniaeth ar blastigau un defnydd wedi cyfrannu at ein cymdeithas ‘tafladwy’ gyfredol.

Defnyddir rhai o’r eitemau hyn am ddim ond ychydig funudau ond nid ydyn nhw wedi diflannu. Dim ond cyfran fach o blastigau sy’n cael eu hailgylchu yn fyd-eang, gyda rhai yn cael eu tirlenwi, tra bod eraill wedi’u gwasgaru i’n priddoedd, ein hafonydd a’n cefnforoedd a’u rhannu’n ronynnau plastig bach o’r enw ‘microplastigau’.

Potel blastig ar y palmant

Data sbwriel plastig

Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.

Mae’r ffigurau hyn yn amlygu eitemau plastig oedd yn cael eu cofnodi’n gyffredin fel sbwriel ledled Cymru y llynedd mewn ardaloedd cyhoeddus gan gynnwys strydoedd, meysydd parcio, parciau a mannau gwyrdd, a thraethau dŵr ymdrochi dynodedig.

I weld holl ganlyniadau diweddaraf yr arolwg sbwriel, ewch i’n tudalen data sbwriel.

Data sbwriel

37.7%

o safleoedd â photeli plastig

30.6%

o safleoedd â chadachau gwlyb

8.7%

o safleoedd â chwpanau plastig untro

Cwpanau plastig wedi eu taflu

Deall y broblem

Mae ffeithiau a ffigurau llym sy’n dangos pa mor ddifrifol yw’r broblem blastig:

  • Mae plastig yn deillio o olew – tanwydd ffosil sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
  • Mae llawer o eitemau plastig yn ysgafn, felly maen nhw’n teithio’n hawdd o amgylch yr amgylchedd yn y gwynt a’r glaw.
  • Gall plastig achosi anaf neu farwolaeth i fywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, ac yn aml gellir ei gamgymryd am fwyd sy’n golygu bod plastig yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.
  • Gall eitemau plastig gynnwys, amsugno neu ollwng cemegau gwenwynig i mewn i’r amgylchedd a all effeithio ar iechyd dynol.
  • Mae gronynnau plastig bach iawn wedi cael eu canfod mewn corff dynol, ond mae’r ymchwil i effeithiau posibl plastigau yn parhau.
Golygfa o’r cefn o grŵp canolig o bobl ifanc ac oedolion ifanc sydd yn ffrindiau yn mwynhau diwrnod allan yng nghefn gwlad prydferth

Mynd i’r afael â’r broblem

Gall graddau’r her deimlo’n llethol, ond mae gobaith. Mae Llywodraethau ar draws y byd yn cydweithio ar atebion i fynd i’r afael â llygredd plastig.

Yng Nghymru, mae’r gwaharddiad ar blastigau untro wedi lleihau’r defnydd o eitemau fel gwellt a chyllyll a ffyrc plastig yn sylweddol, ac mae deddfwriaeth i’r dyfodol i leihau plastig ar waith. Mae diddordeb cynyddol mewn dewisiadau amgen i blastigau traddodiadol.

Mae angen i atal sbwriel fod yn ganolog i’n hymdrechion, trwy roi blaenoriaeth i leihau, ailddefnyddio ac atgyweirio.

Wrth gwrs, gall hyd yn oed y camau bach rydym yn eu cymryd fel unigolion wneud gwahanaieth mawr. Mae camau syml fel cario potel ddŵr, cwpan coffi neu fagiau siopa amldro, a dewis ffrwythau a llysiau rhydd i gyd yn helpu.

Yn 2025, ail-lansiwyd ein hymgyrch ‘Creu Straeon, Nid Sbwriel’ i annog pobl i adael dim olion tra’n mwynhau ein traethau, parciau a mannau hardd trawiadol.

Ydych chi eisiau ein helpu ni i roi’r gair ar led? Ewch i’n safle Brandbag i lawrlwytho posteri a graffeg y cyfryngau cymdeithasol #CreuStraeonNidSbwriel.

Ewch i Brandbag

Archwilio problemau eraill

Ansawdd aer

Darganfod

Baw cŵn

Darganfod
Reuban, y ci defaid Cymreig yn cerdded ar hyd llwybr troed yng nghefn gwlad

Sbwriel diodydd

Darganfod
Casgliad o boteli gwydr

Sbwriel ar ochr y ffordd

Darganfod
Deunydd pecynnu bwyd brys wedi ei daflu fel sbwriel ar ffordd

Sbwriel smygu a fêps

Darganfod
A discarded cigarette and packets on a street

Gwm cnoi

Darganfod
Staen gwm cnoi ar balmant gerllaw bin

Sbwriel cyffuriau

Darganfod
Nodwyddau wedi eu taflu mewn isdyfiant

Gorfodaeth

Darganfod
Cerddwr cŵn yn defnyddio bin

Tipio anghyfreithlon

Darganfod
Staff Cadwch Gymru’n Daclus yn tynnu oergell allan o lyn

Sbwriel o’r awyr

Darganfod
Tân gwyllt yn y nos

Sbwriel morol

Darganfod
Sbwriel wedi ei olchi i fyny ar y traethlin

Seilwaith cyhoeddus

Darganfod

Problemau amgylcheddol eraill

Darganfod
Graffiti mewn isffordd
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13