Data sbwriel diodydd
Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.
Mae’r ffigurau hyn yn dangos graddau’r sbwriel diodydd ledled Cymru y llynedd mewn ardaloedd cyhoeddus gan gynnwys strydoedd, meysydd parcio, parciau a mannau gwyrdd, a thraethau dŵr ymdrochi dynodedig.
I weld holl ganlyniadau diweddaraf yr arolwg sbwriel, ewch i’n tudalen data sbwriel.
72.6%
o safleoedd â sbwriel diodydd
4345202
o eitemau wedi eu hamcangyfrif
39.8%
yn ganiau
Cynllun dychwelyd ernes i gael ei lansio
Mae cynllun dychwelyd ernes (CDE) yn cynnwys talu blaendal ariannol bach pan fydd cwsmeriaid yn prynu diod, fydd yn cael ei ad-dalu pan fyddant yn dychwelyd eu potel neu gan mewn man casglu dynodedig.
Mae cynlluniau dychwelyd ernes yn ei gwneud hi’n haws i bobl wneud y peth iawn, lleihau sbwriel ar ein strydoedd, yn ein parciau ac ar ein traethau, a defnyddio deunyddiau gwerthfawr am fwy o amser.
Mae’n ddull ymarferol, sydd wedi ei brofi i ddod â buddion amgylcheddol gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.
Rydym wedi bod yn galw am CDE ers bron dau ddegawd, felly rydym wrth ein bodd bod Cymru’n bwriadu symud ymlaen gyda chynllun sydd yn cadw gwydr ac yn datblygu llwybr clir i ailddefnyddio.
Cliciwch y ddolen isod i ddarllen ein datganiad llawn yn dilyn y cyhoeddiad ar 12 Chwefror 2026.
Darllen mwy
Mynd i’r afael â’r broblem
Mae angen i atal sbwriel fod yn greiddiol i’n hymdrechion, trwy flaenoriaethu lleihau ac ailddefnyddio.
Rydym yn hyderus y bydd cynllun dychwelyd ernes yn arwain at Gymru lanach, ond mae angen pobl arnom i wneud y peth iawn nawr!
Yn 2025, ail-lansiwyd ein hymgyrch ‘Creu Straeon, Nid Sbwriel’ i annog pobl i adael dim olion tra’n mwynhau ein traethau, parciau a mannau hardd trawiadol.
Ydych chi eisiau ein helpu ni i roi’r gair ar led? Ewch i’n safle Brandbag i lawrlwytho posteri a graffeg y cyfryngau cymdeithasol #CreuStraeonNidSbwriel.
Archwiliwch broblemau eraill
Sbwriel o’r awyr
Darganfod
Sbwriel smygu a fêps
Darganfod
Baw cŵn
Darganfod
Ansawdd aer
Darganfod
Gwm cnoi
Darganfod
Llygredd Plastig
Darganfod
Sbwriel cyffuriau
Darganfod
Gorfodaeth
Darganfod
Tipio anghyfreithlon
Darganfod
Sbwriel morol
Darganfod
Sbwriel ar ochr y ffordd
Darganfod
Problemau amgylcheddol eraill
Darganfod
Seilwaith cyhoeddus
Darganfod







