JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Sbwriel ar ochr y ffordd

Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn fater cymhleth gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol – sydd yn bygwth bywyd gwyllt ac yn llygru ein dyfrffyrdd.

Mae cael gwared ar sbwriel o ochr ffyrdd, cilffyrdd a chyffyrdd hefyd yn cynnwys risg sylweddol i iechyd a diogelwch ac yn gofyn am adnoddau sylweddol. Mae’r heriau hyn yn gwneyd y broblem yn fwy anodd i fynd i’r afael â hi yn effeithiol ac yn lleihau pa mor aml y gall glanhau ddigwydd.

Deunydd pecynnu bwyd brys wedi ei daflu fel sbwriel ar ffordd

Data sbwriel ac ochr y ffordd

Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.

Mae’r ffigurau hyn yn dangos graddau sbwriel ar ochr y ffordd ledled Cymru y llynedd.

Mae’r data’n pwysleisio effaith amgylcheddol bwyd a diod ‘wrth fynd’ gyda sbwriel melysion, diodydd a bwyd brys gyda’r mathau mwyaf cyffredin o sbwriel ar hyd ochr ein ffyrdd.

I weld holl ganlyniadau diweddaraf yr arolwg sbwriel, ewch i’n tudalen data sbwriel.

Data sbwriel

98.8%

A and B roads had litter

80.7%

main roads had sweets and chocolate packaging

67%

main roads had fast-food litter

Deunydd pecynnu bwyd brys wedi ei daflu fel sbwriel ar ffordd

Adrodd am sbwriel ar ochr y ffordd

Mae’r cyfrifoldeb am gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru yn bennaf gydag awdurdodau lleol, ond mae rhai eithriadau.

Er enghraifft, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw traffyrdd a chefnffyrdd mawr trwy’r Asiantaethau Cefnffyrdd – Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru.

Os byddwch yn gweld unrhyw sbwriel ar ochr y ffordd, gallwch roi gwybod i’ch awdurdod lleol neu’r perchennog tir perthnasol am y broblem.

Enghraifft o boster ymgyrch

Mynd i’r afael â’r broblem

Os byddwch yn gweld unrhyw sbwriel ar ochr y ffordd, gallwch roi gwybod i’ch awdurdod lleol neu’r perchennog tir perthnasol am y broblem.

Does dim esgus dros daflu sbwriel o gerbyd. Mae’n ddiog, yn ddiangen, ac mae’n hawdd iawn ei osgoi.

Yn 2026, fe wnaethon ni ail-lansio ein hymgyrch ‘Gyrrwch Eich Sbwriel Gartref’ i annog modurwyr i wneud y peth iawn.

Gallwch ein helpu ni i roi’r gair ar led trwy ymweld â’n safle Brandbag a lawrlwytho ein posteri a’n graffeg cyfryngau cymdeithasol #GyrrwchEichSbwrielAdref.

Ewch i Brandbag

Yn ei hanfod, Caru Cymru yw fy swydd ddisgrifiad, ond rydw i hyd yn oed yn teimlo embaras am gyflwr ochr ein ffyrdd. Does dim esgus dros daflu sbwriel o gerbyd. Mae’n ddiog, yn ddiangen, a gellir ei osgoi yn llwyr. Nid yw sbwriel ar ochr y ffordd yn broblem newydd, ond mae’r data diweddaraf hyn yn dangos pa mor gyffredin y mae erbyn hyn. Mae angen i bob modurwr gymryd cyfrifoldeb. Eich eiddo chi yw sbwriel yn eich cerbyd. Gyrrwch ef adref a’i waredu’n gywir.

Owen Derbyshire Prif Weithreddwr, Cadwch Gymru’n Daclus

Archwilio broblemau eraill

Ansawdd aer

Darganfod

Gwm cnoi

Darganfod
Staen gwm cnoi ar balmant gerllaw bin

Baw cŵn

Darganfod
Reuban, y ci defaid Cymreig yn cerdded ar hyd llwybr troed yng nghefn gwlad

Sbwriel smygu a fêps

Darganfod
A discarded cigarette and packets on a street

Llygredd Plastig

Darganfod
Potel blastig ar y palmant

Sbwriel diodydd

Darganfod
Casgliad o boteli gwydr

Sbwriel cyffuriau

Darganfod
Nodwyddau wedi eu taflu mewn isdyfiant

Gorfodaeth

Darganfod
Cerddwr cŵn yn defnyddio bin

Tipio anghyfreithlon

Darganfod
Staff Cadwch Gymru’n Daclus yn tynnu oergell allan o lyn

Sbwriel o’r awyr

Darganfod
Tân gwyllt yn y nos

Sbwriel morol

Darganfod
Sbwriel wedi ei olchi i fyny ar y traethlin

Seilwaith cyhoeddus

Darganfod

Problemau amgylcheddol eraill

Darganfod
Graffiti mewn isffordd
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13