Data sbwriel plastig
Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.
Mae’r ffigurau hyn yn amlygu eitemau plastig oedd yn cael eu cofnodi’n gyffredin fel sbwriel ledled Cymru y llynedd mewn ardaloedd cyhoeddus gan gynnwys strydoedd, meysydd parcio, parciau a mannau gwyrdd, a thraethau dŵr ymdrochi dynodedig.
I weld holl ganlyniadau diweddaraf yr arolwg sbwriel, ewch i’n tudalen data sbwriel.
37.7%
o safleoedd â photeli plastig
30.6%
o safleoedd â chadachau gwlyb
8.7%
o safleoedd â chwpanau plastig untro
Deall y broblem
Mae ffeithiau a ffigurau llym sy’n dangos pa mor ddifrifol yw’r broblem blastig:
- Mae plastig yn deillio o olew – tanwydd ffosil sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
- Mae llawer o eitemau plastig yn ysgafn, felly maen nhw’n teithio’n hawdd o amgylch yr amgylchedd yn y gwynt a’r glaw.
- Gall plastig achosi anaf neu farwolaeth i fywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, ac yn aml gellir ei gamgymryd am fwyd sy’n golygu bod plastig yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.
- Gall eitemau plastig gynnwys, amsugno neu ollwng cemegau gwenwynig i mewn i’r amgylchedd a all effeithio ar iechyd dynol.
- Mae gronynnau plastig bach iawn wedi cael eu canfod mewn corff dynol, ond mae’r ymchwil i effeithiau posibl plastigau yn parhau.
Mynd i’r afael â’r broblem
Gall graddau’r her deimlo’n llethol, ond mae gobaith. Mae Llywodraethau ar draws y byd yn cydweithio ar atebion i fynd i’r afael â llygredd plastig.
Yng Nghymru, mae’r gwaharddiad ar blastigau untro wedi lleihau’r defnydd o eitemau fel gwellt a chyllyll a ffyrc plastig yn sylweddol, ac mae deddfwriaeth i’r dyfodol i leihau plastig ar waith. Mae diddordeb cynyddol mewn dewisiadau amgen i blastigau traddodiadol.
Mae angen i atal sbwriel fod yn ganolog i’n hymdrechion, trwy roi blaenoriaeth i leihau, ailddefnyddio ac atgyweirio.
Wrth gwrs, gall hyd yn oed y camau bach rydym yn eu cymryd fel unigolion wneud gwahanaieth mawr. Mae camau syml fel cario potel ddŵr, cwpan coffi neu fagiau siopa amldro, a dewis ffrwythau a llysiau rhydd i gyd yn helpu.
Yn 2025, ail-lansiwyd ein hymgyrch ‘Creu Straeon, Nid Sbwriel’ i annog pobl i adael dim olion tra’n mwynhau ein traethau, parciau a mannau hardd trawiadol.
Ydych chi eisiau ein helpu ni i roi’r gair ar led? Ewch i’n safle Brandbag i lawrlwytho posteri a graffeg y cyfryngau cymdeithasol #CreuStraeonNidSbwriel.
Ewch i BrandbagArchwilio problemau eraill
Ansawdd aer
Darganfod
Baw cŵn
Darganfod
Sbwriel diodydd
Darganfod
Sbwriel ar ochr y ffordd
Darganfod
Sbwriel smygu a fêps
Darganfod
Gwm cnoi
Darganfod
Sbwriel cyffuriau
Darganfod
Gorfodaeth
Darganfod
Tipio anghyfreithlon
Darganfod
Sbwriel o’r awyr
Darganfod
Sbwriel morol
Darganfod
Seilwaith cyhoeddus
Darganfod
Problemau amgylcheddol eraill
Darganfod







