Data sbwriel morol
Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.
Mae’r ffigurau hyn yn amlygu sbwriel a gofnodwyd yn gyffredin ar draethau dŵr ymdrochi dynodedig yng Nghymru y llynedd.
Ar gyfer holl ganlyniadau diweddaraf yr arolwg sbwriel, ewch i’n tudalen data sbwriel.
40.3%
o sbwriel ar draethau yn offer pysgota
15.5%
o sbwriel ar draethau yn sbwriel melysion
5.3%
o sbwriel ar draethau yn fonion sigaréts
Deall y broblem
Mae gwir effaith sbwriel morol yn fwy brawychus nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli – edrychwch ar y ffeithiau hyn sy’n agoriad llygad:
- Nid yw sbwriel yn aros yn llonydd yn yr amgylchedd. Mae’n teithio trwy’r gwynt a’r glaw, mewn draeniau a charthffosydd, ac i lawr afonydd ac yn y pen draw, mae’n cyrraedd y môr.
- Gall sbwriel morol achosi anaf neu farwolaeth i anifeiliaid morol ac adar y môr trwy gael eu dal ynddynt neu eu bwyta.
- Mae’r economi dan fygythiad gan fod sbwriel morol yn effeithio ar dwristiaeth, cymunedau arfordirol, pysgodfeydd a gweithrediadau morgludiant.
- Gall presenoldeb sbwriel morol gael effeithiau uniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol dynol.
Mynd i’r afael â’r broblem
I fynd i’r afael â sbwriel morol, mae angen i ni asesu ein hymddygiad sbwriel a gwastraff a deall llwybrau sbwriel i mewn i’n hamgylcheddau morol.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cydlynu’r gwobrau arfordir yng Nghymru ac yn gweithio’n helaeth gyda’n partneriaid i sicrhau arfordir a glan môr glân, gwyrdd ac o ansawdd uchel.
Rydym hefyd yn rhan o Glymblaid Llythrennedd Cefnor Cymru – grŵp o sefydliadau sy’n gweithio i ddatblygu dealltwriaeth pawb o’u dylanwad nhw ar y cefnfor a dylanwad cefnforoedd arnom ni, trwy weithredoedd yn Y Môr a Ni – strategaeth llythrennedd morol i Gymru.
Canllawiau ac ymchwil
Archwilio problemau eraill
Baw cŵn
Darganfod
Sbwriel ar ochr y ffordd
Darganfod
Sbwriel diodydd
Darganfod
Llygredd Plastig
Darganfod
Ansawdd aer
Darganfod
Gwm cnoi
Darganfod
Sbwriel smygu a fêps
Darganfod
Sbwriel cyffuriau
Darganfod
Gorfodaeth
Darganfod
Tipio anghyfreithlon
Darganfod
Sbwriel o’r awyr
Darganfod
Seilwaith cyhoeddus
Darganfod
Problemau amgylcheddol eraill
Darganfod







