Yn dathlu arwyr amgylcheddol ers 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus yn tynnu sylw at yr unigolion, y grwpiau a’r busnesau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau. O ddiogelu natur i hyrwyddo cynaliadwyedd, mae’r hyrwyddwyr hyn yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i gadw Cymru’n lân, yn wyrdd ac yn ddiogel.
Mae gwobrau 2025, sy’n cael eu noddi unwaith eto gan Tai Wales & West, yn cynnwys amrywiaeth eang o gategorïau. Er bod rhai, fel ein Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn, wedi eu sefydlu ers tipyn, rydym wedi diwygio rhai eraill ar gyfer eleni, gan gynnwys y Gwobrau Uno dros Effaith Amgylcheddol a Chymunedau Glanach.
Ydych chi’n ystyried enwebu rhywun yr ydych yn ei adnabod? Gallwch enwebu eich hun, grŵp, ysgol, sefydliad, ffrind(iau), teulu neu gydweithiwr/cydweithwyr.
Cliciwch ar gategori i ganfod mwy:
Ers dros tri degawd, mae Gwobrau Cymru Daclus wedi cydnabod yr arwyr dyddiol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hamgylchedd. Dros y blynyddoedd, mae llawer wedi newid, ond mae ymroddiad diwyro unigolion, cymunedau, ysgolion, busnesau a phartneriaid ledled Cymru yn dal yn gryfach nag erioed. Rydym yn llawn cyffro i ddarganfod a rhannu’r straeon ysbrydoledig y tu ôl i enwebiadau 2025. Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Cymru Daclus ar agor tan 6 Gorffennaf 2025. Gallwch enwebu eich hun, grŵp, ysgol, sefydliad, ffrind(iau), teulu, neu gydweithiwr/cydweithwyr. Gellir enwebu ar-lein, trwy nodyn llais neu fideo.
I ddarllen mwy am bob categori a chyflwyno enwebiad, cliciwch yma
02/05/2025
22/04/2025
02/12/2024
19/11/2024