A A A

Eco-Sgolion: Bwystfilod Bach Gwych

08/07/2026 - 09/07/2026

Ar-lein

Dewch â’r awyr agored i’ch dosbarth! Archwiliwch Fyd Hudolus Bwystfilod Bach 

Ysgogwch eu chwilfrydedd a thaniwch gariad tuag at natur gyda’r digwyddiad cyffrous sy’n archwilio bywyd bwystfilod bach! 

Mae’r sesiwn yn cynnwys: 

Cyfle i archwilio bwystfilod bach: Dysgu am nodweddion anhygoel bwystfilod  bach. 

Archwilio cynefinoedd: Darganfod ble mae bwystfilod bach yn byw ac yn ffynnu. 

Gweithgareddau hwylus a rhyngweithiol: I ennyn ddiddordeb a chwilfrydedd eich disgyblion. 

 

Addas ar gyfer pob grŵp blwyddyn cynradd. 

Dyma gyfle gwych i ddod â dysgu yn yr awyr agored i’r dosbarth ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fod yn angerddol dros natur! 

 

Cofrestrwch eich dosbarth heddiw gan ddefnyddio’r ffurflen isod.