A A A

Cafodd Cadwch y Fenni’n Daclus ei ffurfio yn 2010 i helpu i lanhau y Fenni, Llan-ffwyst a Maerdy.

Ar ôl cymryd cam yn ôl am ychydig flynyddoedd, ail-lansiodd y grŵp yn 2019 mewn ymateb i bryderon ynghylch lefelau cynyddol o sbwriel.

Yma rydym yn myfyrio ar ein llwyddiant a’r cymorth sydd wedi ein helpu i fynd o nerth i nerth.

Ym mis Mawrth 2025, mae’r grŵp wedi casglu 4,705 o sbwriel trwy gynnal digwyddiadau codi sbwriel unigol a misol.

Dywedwch am eich penderfyniad i ail-lansio yn 2019.

Daeth grŵp bach o aelodau ynghyd, am eu bod yn bryderus am y broblem gynyddol o sbwriel yn y Fenni a’r ardaloedd cyfagos. Sefydlodd Cadwch y Fenni’n Daclus dudalen Facebook yn gyflym a chynnal cyfarfod cyhoeddus i fesur y diddordeb yn y gymuned ehangach. Ein gobaith oedd y byddai rhai gwirfoddolwyr yn camu i’r adwy i ofalu am eu hardal eu hunain, eu stryd eu hunain neu ran ohoni, tra byddai eraill yn helpu i lanhau eu hoff fannau hardd.

Ar ôl y cyfarfod hwn, cynhaliwyd digwyddiad glanhau cymunedol a mynychodd dros 10 gwirfoddolwr, ac nid ydym wedi stopio ers hynny!

Mae ein digwyddiadau codi sbwriel misol yn denu rhwng 14 a 24 o wirfoddolwyr ar gyfartaledd, yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn ac ar y tywydd. Rydym hefyd wedi sefydlu prosiectau atal sbwriel ac mae gennym bron 900+ o ddilynwyr ar Facebook.

Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu ers ail-lansio?

Fel cymaint o grwpiau cymunedol, rydym wedi dibynnu ychydig yn ormod ar un neu ddau o wirfoddolwyr yn y gorffennol, sydd yn rhoi’r grŵp mewn sefyllfa beryglus!

Cawsom gyngor a chefnogaeth gan ein Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus lleol, wnaeth ein helpu i gymryd cam yn ôl, adolygu ein blaenoriaethau a newid y ffordd yr ydym yn trefnu’r grŵp.

Pa newidiadau ydych chi wedi eu gwneud i sicrhau bod y grŵp yn rhedeg yn ddidrafferth ac yn gynaliadwy?

Diolch i gymorth Cadwch Gymru’n Daclus, rydym wedi dysgu beth sydd wedi gweithio i grwpiau eraill yn Sir Fynwy ac ymhellach i ffwrdd.

Rydym wedi datblygu rolau newydd y gall pobl wahanol eu gwneud, fel arweinydd y cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennydd aelodaeth. Rydym hefyd wedi dangos i fwy o aelodau’r grŵp sut i arwain digwyddiadau codi sbwriel a chynnal briffiau diogelwch, sydd bellach yn cynnwys fêps. Mae hyn hefyd yn ein helpu i addasu i unrhyw newidiadau i bersonél yn y dyfodol.

Gyda bron 100 o aelodau, sut ydych chi’n cyfathrebu gyda’ch gwirfoddolwyr?

Yn y gorffennol, roedd y cyfrifoldeb am gyfathrebu ag aelodau fwy neu lai gydag un person. Er mwyn helpu i leddfu’r pwysau hyn, rydym wedi sefydlu cyfrif e-bost newydd y mae sawl person yn gallu ei ddefnyddio. Rydym hefyd wedi canfod bod WhatsApp yn offeryn hynod ddefnyddiol ac mae wedi lleihau’r angen am negeseuon e-bost mewnol. Mae dathlu ein cyflawniadau bob amser yn bwysig i gadw morâl yn uchel. Mae defnyddio’r system gofnodi eCyfrif Cymru a gweld yr ystadegau’n cronni ar y Map Effaith Gymunedol wedi helpu cryn dipyn gyda hyn.

Pa gymorth gawsoch chi o’r gymuned leol?

Rydym bob amser wedi bod â pherthynas gref gyda Chyngor y Dref. Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Sir Fynwy, yn arbennig eu Swyddog Seilwaith Gwyrdd ac Addysg ac Ymwybyddiaeth o Sbwriel, sydd yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd, yn cysylltu ag adnoddau’r cyngor ac sydd wedi gweithio gyda ni ar brosiectau penodol.

I ganfod mwy am Cadwch y Fenni’n Daclus, dilynwch nhw ar Facebook.

Eisiau sefydlu neu ail-lansio eich grŵp cymunedol eich hun?

Gall ein swyddogion arbenigol eich tywys drwy’r broses gyfan.

Cysylltwch â ni

Ymunwch â’n cymuned codi sbwriel

Wedi ei ddylunio i gefnogi gwirfoddolwyr ledled Cymru!

Dewch yn aelod o’n Grŵp Facebook