Cynigir y sesiwn hwyrnos yma i holl Gydlynwyr Eco o ysgolion sydd eisoes wedi ennill gwobr Platinwm Eco-Sgolion. Bydd y sesiwn yn cynnig cefnogaeth a/neu sicrwydd ynghylch y broses o adnewyddu’r wobr Platinwm.
Sylwch, os ydych yn gydlynydd Eco-Sgolion newydd ac nad ydych yn gyfarwydd â sut mae’r rhaglen yn gweithio, dylech fynychu’r hyfforddiant Cydlynydd Newydd sydd hefyd ar gael.
Bydd sesiynau ar gael drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.
Archebwch le trwy lenwi’r ffurflen gofrestru isod.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.