A A A

Polisi wedi ei arwain gan Dystiolaeth: Pwysigrwydd Data ac Ymchwil

25/11/2025 @ 17:00 - 18:00

Ar-lein

Ymunwch â’n gweminar i ddarganfod sut mae data ac ymchwil yn sbarduno penderfyniadau amgylcheddol – a sut gallwch fod yn rhan o’r newid.

Wrth i heriau amgylcheddol fynd yn fwyfwy cymhleth, mae pwysigrwydd gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth yn bwysicach nag erioed. Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r ffordd y mae mewnwelediadau wedi eu sbarduno gan ddata yn arwain polisi, yn amlygu’r offer a ddefnyddir gan Cadwch Gymru’n Daclus, ac yn arddangos rôl hanfodol gwirfoddolwyr a gwyddonwyr sy’n ddinasyddion.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:

  • Pam mae ymchwil a data yn hanfodol ar gyfer polisi amgylcheddol effeithiol.
  • Y prif heriau y mae ymchwilwyr yn eu hwynebu wrth gasglu data.
  • Yr offer a’r mathau o ddata y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn eu defnyddio yn ein gwaith.
  • Sut gall gwyddoniaeth dinasyddion a chyfranogiad cymunedol helpu i gynyddu effaith ymchwil.
  • Enghreifftiau bywyd go iawn o’r ffordd y mae data wedi arwain at welliannau amgylcheddol ystyrlon.

Cynhelir y sesiwn ar-lein, a gyflwynir yn Saesneg, am 17.00-18.00 ar ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2025.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i glywed oddi wrth ein Swyddog Polisi ac Ymchwil gwych, Angharad James!

Cadwch le ar y weminar

Llenwch y ffurflen gofrestru isod i gadw lle.

Byddwch wedyn yn cael e-bost i gadarnhau gyda’r ddolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu spam os nad ydych wedi ei dderbyn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch â’r tîm. E-bost zoe.abbott@keepwalestidy.cymru 

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae hwn yn rhan o gyfres o weminarau a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer grwpiau cymunedol amgylcheddol a gwirfoddolwyr yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!