Ffurfiwyd Forward 4 Fairyland yn 2003 fel ymateb i bryderon am sbwriel, tipio anghyfreithlon, cyffuriau, llosgi bwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol arall ar Ystâd Fairyland, Castell-nedd.
Wedi ei arwain gan grŵp o breswylwyr ymroddedig sy’n angerddol am drawsnewid eu hystâd, cafodd Forward 4 Fairyland gefnogaeth sawl sefydliad lleol pwysig yn gyflym a gwnaethant gamau mawr i wella’r ardal, gan ddileu dros 100 tunnell o sbwriel wedi ei dipio’n anghyfreithlon yn eu 18 mis cyntaf.
Ar ôl lleihau’r gweithgareddau yn ystod y pandemig, ail-lansiodd y grŵp ar ddiwedd 2023. Maen nhw wedi mynd o nerth i nerth ers hynny, diolch i gyhoeddusrwydd effeithiol a chyfres o ddigwyddiadau cymunedol ymgysylltiol, yn cynnwys diwrnodau o hwyl, partïon, digwyddiadau codi sbwriel cymunedol a llawer mwy.
Sut dechreuodd Forward 4 Fairyland?
Yn anffodus, nôl yn 2003, roedd gan Ystâd Fairyland enw drwg am sbwriel, tipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roeddem eisiau herio’r amgyffrediad hwn ac ailgynnau ymdeimlad o falchder cymunedol.
Gyda chymorth ein swyddog Cadwch Gymru’n Daclus lleol a’r Tîm Cymunedau yn Gyntaf, talodd ein hymdrechion ar eu canfed yn gyflym iawn, gyda gwelliannau ffisegol yn digwydd ar yr ystâd a digwyddiadau’n cael eu cynnal ar gyfer preswylwyr.
Fe wnaethom ddechrau cael ein cydnabod am ein gwaith, a dilynodd gwobrau yn gyflym.
Beth yw eich llwyddiannau mwyaf?
Cawsom arian gan Y Gronfa Loteri Fawr yn 2005 (a elwir bellach yn Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol) i adeiladu cae pêl-droed ar ddarn o dir oedd yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon, tanau ac i waredu ceir. Mae’r ardal hon yn dal i fod yn llewyrchus, ac rydym nawr yn datblygu gardd gymunedol ar ôl cael Pecyn Datblygu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus yn ddiweddar a derbyn cyllid gan Gronfa Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Fe wnaethom hefyd droi hen faes parcio yn ardal chwarae i blant ac mae gennym bellach garafan sy’n cael ei ddefnyddio fel hyb cymunedol lle’r ydym yn cynnal cyfarfodydd ac yn gwerthu bwyd yn ein siop. Rydym ar hyn o bryd wrthi’n adfer ardal chwarae trwy weithio gydag artist lleol i baentio murlun ar wal ddiflas yn ogystal â gosod cylchynau pêl-fasged yn yr ardal.
Sut effeithiodd y pandemig ar eich gwaith?
Nid yw bob amser yn hawdd rhedeg grŵp cymunedol ac rydym wedi wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd.
Er i rai ohonom barhau i godi sbwriel fel unigolion yn ystod y pandemig, collodd y grŵp ei hun fomentwm. Yna cafodd yr argyfwng costau byw effaith, ac roeddem i gyd yn cael anhawster yn recriwtio aelodau newydd i sbarduno pethau.
Naethon ni ddim ail-ffurfio’n iawn tan diwedd 2023, cafodd aelodau newydd eu recriwtio a dechreuwyd cynllunio cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.
Sut ydych chi’n cadw diddordeb preswylwyr yn eich gwaith?
Rydym bob amser yn ceisio amrywio pethau. Ers ail-ffurfio, yn ogystal â chynnal digwyddiadau glanhau rheolaidd, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid lleol i gynnwys gweithgareddau fel diwrnodau ymwybyddiaeth ailgylchu a cherfio pwmpenni. Fe wnaethom hyd yn oed gynnal parti hanner tymor bach ar ôl digwyddiad glanhau diweddar, gyda chastell gwynt a gemau i helpu i ddenu mwy o deuluoedd.
Nid ydym byth eisiau pobl i deimlo mai gwaith caled yw bod yn aelod o Forward 4 Fairyland. Mae ein grŵp yn ymwneud â llawer mwy na sbwriel; mae’n ymwneud â phobl yn dod ynghyd, goresgyn unigrwydd a chael hwyl!
Pa berthnasoedd lleol sydd wedi helpu eich ymdrechion cyhoeddusrwydd?
Roedd amrywiaeth o bobl a sefydliadau yn gysylltiedig pan gafodd Forward 4 Fairyland ei sefydlu gyntaf, yn cynnwys cynghorwyr lleol, Cymunedau yn Gyntaf, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Fe wnaethant i gyd helpu i roi’r gair ar led am yr hyn yr oeddem yn ceisio ei wneud.
Rydym wedi datblygu perthynas gref gyda newyddiadurwyr lleol dros y blynyddoedd, felly rydym yn tueddu i gael sylw da pan fyddwn yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg am ein gweithgareddau.
Mae cysylltu gydag Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol wedi bod yn bwysig hefyd. Maen nhw’n aml wedi dod i’n digwyddiadau, wedi gweld yn uniongyrchol yr hyn rydym yn ei wneud, ac wedi mynd ymlaen i rannu ein newyddion trwy eu sianeli cyfathrebu. Fe wnaeth ein AoS lleol enwebu ein grŵp ar gyfer gwobr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot hyd yn oed.
Yn 2024, fe wnaethom groesawu tri gwestai blaenllaw yn cynnwys Prif Weinidog Cymru bryd hynny, Mark Drakeford, Arglwydd Raglaw EF Gorllewin Morgannwg ac Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, gan eu galluogi i ddeall yn well yr hyn mae ein grŵp yn ei wneud ar lawr gwlad.
A oes gennych unrhyw gyngor arall i grwpiau cymunedol eraill sydd eisiau gwella eu hymdrechion cyhoeddusrwydd?
Beth nesaf i Forward 4 Fairyland?
Erbyn diwedd 2025, rydym yn gobeithio bod wedi gorffen adfer ein ardal chwarae i blant, gyda murluniau newydd ac wedi gosod cylchynau pêl-fasged. Bydd unrhyw beth arall y byddwn yn ei wneud yn yr ardal chwarae yn fonws.
Rydym hefyd yn gobeithio bydd ein gardd gymunedol wedi ei sefydlu’n llawn erbyn diwedd y flwyddyn gydag amrywiaeth o ffrwythau a llysiau yn tyfu, yn ogystal â denu bywyd gwyllt i’r ardal.
Yn olaf, hoffem gynnwys preswylwyr eraill Fairyland, gan wneud pobl yn ymwybodol o Forward 4 Fairyland a’r hyn rydym yn ei wneud yn y gymuned.
Roedd Fairyland ar un adeg yn gymuned goll gyda phreswylwyr oedd yn teimlo nad oedd ganddyn nhw unrhyw rym. Rydym wedi gweithio i ailgynnau balchder cymunedol tra’n dod â phobl at ei gilydd fel bod lleisiau preswylwyr yn uwch yn swyddfeydd y sefydliadau hynny sydd yn gallu helpu. Luke Lavercombe
Luke Lavercombe
I ganfod mwy am Grŵp Forward 4 Fairyland, ewch i’w Tudalen Facebook.
Gall ein swyddogion arbenigol eich tywys drwy’r broses.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.