Wedi ei sefydlu ym 1996 fel rhan o’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ar gyfer De a Gorllewin Cymru, mae Grŵp Cymunedol Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion wedi ymrwymo i warchod bywyd gwyllt morol tra’n ymgysylltu’r gymuned leol. O’r cychwyn, maent wedi cael braw wrth weld y sbwriel cynyddol ar draethau a’i fygythiad i’r amgylchedd a bywyd gwyllt.
Gyda ffocws ar fynd i’r afael â gwastraff plastig, mae’r grŵp yn cynnal digwyddiadau glanhau’r traeth yn rheolaidd ar Draeth Ceinewydd ac yn addysgu’r cyhoedd am effaith sbwriel.
Pam wnaeth Canolfan Gymunedol Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion greu grŵp cymunedol?
Ym 1996, roedd gan Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion nod o godi ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt morol Bae Ceredigion. Fodd bynnag, daeth un mater oedd yn peri pryder i’r amlwg: y swm cynyddol o sbwriel oedd yn effeithio ar fywyd gwyllt lleol.
Gan gydnabod yr angen i weithredu ar frys, trefnodd y sylfaenwyr i grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig ddechrau glanhau’r traeth. Ers hynny, rydym wedi adleoli i Geinewydd, lle mae’r broblem sbwriel yn parhau, yn enwedig yn ystod yr haf, ac rydym wedi parhau â’n hymdrechion i gadw’r traethau yn lân trwy ddigwyddiadau glanhau traethau rheolaidd.
Ydych chi wedi cynnal unrhyw ymgyrchoedd lleol gyda’ch grŵp, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn?
Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethon ni lansio menter Ceinewydd Ddi-blastig, gan ffurfio partneriaeth gyda sefydliadau lleol i annog busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr i leihau eu defnydd o blastig. Roedd ein hymgyrch yn cynnwys posteri o amgylch y gymuned leol, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, a chodi ymwybyddiaeth wrth ein stondinau. Yn y stondinau hyn, fe wnaethom addysgu’r cyhoedd am effaith niweidiol sbwriel plastig a hyrwyddo dewisiadau amgen i blastigau untro.
Llwyddodd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, gyda chynnydd mewn ymgysylltiad cymunedol a chymryd rhan mewn gweithgareddau codi sbwriel. Gwelsom fwy o bobl yn cymryd rhan mewn digwyddiadau glanhau lleol ac yn mabwysiadu arferion di-blastig.
Er ein bod wedi croesawu’r gwaharddiad ar blastigau untro, mae ein cenhadaeth i ddileu gwastraff plastig o’n traethau yn parhau. Mae’r ymdrech hon yn parhau trwy ein digwyddiadau glanhau traethau blynyddol, PlastOff, sydd wedi cynyddu o ran y rhai sy’n cymryd rhan dros y blynyddoedd. Trwy’r digwyddiadau hyn, rydym nid yn unig yn glanhau’r traethau, ond hefyd yn parhau i addysgu’r cyhoeddu am y niwed hirdymor y mae plastigau yn eu hachosi i’n hamgylchedd ac i fywyd gwyllt.
Oes gennych chi unrhyw straeon llwyddiant am hyrwyddo eich grŵp?
Oes! Diolch i’n hymgyrchoedd glanhau traethau ar Facebook ac Instagram, denodd ein hymdrechion sylw S4C, gan arwain at ymddangosiad ar y rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Fe wnaethant ddysgu am ein gwaith drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’n mentrau yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion ac fe wnaethant gysylltu er mwyn ein cynnwys mewn darn am sbwriel a phwysigrwydd codi sbwriel mewn grwpiau.
Ein gwirfoddolwyr yw arwyr Ceinewydd, yn rhoi o’u hamser gydag angerdd i gadw ein traethau yn daclus. Heb eu hymdrechion diflino, ni fyddai Ceinewydd ddi-sbwriel yn bosibl. Mae’n dorcalonnus gweld bywyd gwyllt, fel adar y môr, yn rhyngweithio â sbwriel, gan beryglu eu hiechyd! Diolch i’n gwirfoddolwyr, rydym nid yn unig yn gwarchod amgylchedd glanach, ond hefyd yn diogelu’r bywyd gwyllt y mae’n gartref iddyn nhw. Laura Evans, Arweinydd Grŵp Cymunedol Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion
Laura Evans, Arweinydd Grŵp Cymunedol Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion
I ganfod mwy am Grŵp Cymunedol Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion, ewch i’w Tudalen Facebook ac Instagram.
Rydym yn helpu i roi gwirfoddolwyr brwd mewn cysylltiad â grwpiau lleol. Bydd angen i chi lenwi ffurflen fer i wneud yn siŵr bod eich grŵp wedi ei gynnwys ar ein map.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.