Rydym yn gwybod nad yw gwirfoddolwyr bob amser yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu – ac rydym yma i newid hynny.
Dyma pam rydym wedi ymuno â Tempo Time Credits, elusen sy’n helpu pobl o bob cefndir i gymryd rhan mewn gwirfoddoli a’u gwobrwyo am eu cyfraniadau anhygoel.
Trwy’r bartneriaeth hon, gall gwirfoddolwyr ennill Credydau Amser Tempo a’u cyfnewid am amrywiaeth enfawr o wasanaethau a gweithgareddau – o docynnau sinema a diwrnodau allan i ddanteithion mewn caffis a sesiynau campfa.
Mae’r syniad yn syml:
1. Rhowch eich amser trwy wirfoddoli. 2. Enillwch Gredydau Amser Tempo fel diolch. 3. Defnyddiwch nhw ar wneud rhywbeth sydd yn hwyl!
Rydym yn gwahodd grwpiau cymunedol ac Arwyr Sbwriel i ymuno â thîm Cadwch Gymru’n Daclus a dechrau troi eu hamser yn wobrwyon.
Grwpiau Cymunedol: sefydlwch eich cyfrif Tempo eich hun a rheolwch banc o gredydau i’w rhannu gyda’ch aelodau.
Arwyr Sbwriel: crëwch gyfrif i ddechrau ennill a gwario eich Credydau Amser eich hun.
Cliciwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth.
Dyma rai pethau pwysig i’w gwybod cyn dechrau:
Ymunwch â chynllun Cadwch Gymru’n Daclus a dechreuwch roi Credydau Amser i’ch gwirfoddolwyr!
Mae cymryd rhan yn ffordd syml i gydnabod, diolch, a gwobrwyo eich gwirfoddolwyr am eu hamser. Byddwn yn gofalu am yr holl waith gweinyddu ac adrodd, gan wneud pethau’n ddidrafferth i’ch grŵp.
Trwy ymuno â’r cynllun, gallwch hefyd ddenu a chadw mwy o wirfoddolwyr, tra’n cefnogi eu lles trwy gael mynediad at weithgareddau a phrofiadau sydd yn hwyl. Mewn gwirionedd, dywed 60% o wirfoddolwyr fod ennill a defnyddio Credydau Amser wedi gwella ansawdd eu bywyd.
Cliciwch y ddolen isod i greu cyfrif ar-lein ar gyfer eich grŵp. Unwaith y bydd wedi ei sefydlu, bydd gennych fanc o gredydau i’w rhannu gyda’ch aelodau.
> Ymunwch fel grŵp cymunedol
Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn eich helpu i roi’r gair ar led.
Mae Credydau Amser yn ddigidol, felly bydd angen i wirfoddolwyr sefydlu eu cyfrifon Tempo eu hunain i’w derbyn a’u gwario.
Peidiwch â phoeni os nad oes gan rai gwirfoddolwyr e-bost – byddan nhw’n dal i allu cael cerdyn aelodaeth i ddefnyddio eu credydau.
Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau. E-bostiwch info@keepwalestidy.cymru neu ffoniwch 07824 504789.
Os ydych chi’n Arwr Sbwriel ymroddedig sy’n cofnodi data ar eCyfrif Cymru yn rheolaidd, gallwch nawr ennill Credydau Amser Tempo yn uniongyrchol gennym ni fel diolch am eich amser a’ch ymdrech!
Dyma sut mae’n gweithio:
1. Anfonwch e-bost atom yn info@keepwalestidy.cymru a byddwn yn anfon dolen i gofrestru i ymuno â thîm Cadwch Gymru’n Daclus.
2. Crëwch eich cyfrif ar wefan Credydau Amser Tempo trwy lenwi eich manylion a chlicio ‘ymuno’.
3. Dyna ni! Unwaith bydd eich cyfrif wedi ei sefydlu, byddwch yn dechrau ennill Credydau Amser Tempo.
Bydd eich credydau yn cael eu trosglwyddo yn syth i’ch cyfrif ar-lein, yn barod i’w defnyddio ar amrywiaeth eang o weithgareddau sydd yn hwyl ac yn werth chweil. Gallwch wirio eich balans, olrhain eich gweithgareddau, ac archebu profiadau ar-lein unrhyw bryd.
Os na allwch fynd ar-lein yn hawdd, ffoniwch ni ar 07824 504789, byddwn yn sefydlu cyfrif ar eich cyfer ac yn rhoi cerdyn adnabod Tempo i chi. Byddwch yn gallu ffonio Tempo i wirio eich balans ac archebu gweithgareddau gan ddefnyddio eich rhif aelodaeth unigryw.