A A A

Pecynnau Gardd ar gyfer sefydliadau cymunedol

Mae ein Pecynnau Gardd ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd eisiau creu prosiectau ar raddfa fwy. Mae ein dau Becyn Gardd wedi cael eu cynllunio nid yn unig i roi help llaw i natur ond hefyd i fod o fudd i iechyd a lles pobl.

Y nod yw dod â chymunedau ynghyd, annog pobl i wirfoddoli yn yr awyr agored, a chreu mannau gwyrdd i bawb eu mwynhau.

Mae pob pecyn yn cynnwys hyfforddiant, cyngor, cymorth ymarferol a chefnogaeth i osod yr ardaloedd newydd, yn ogystal ag offer, deunyddiau a chyfarpar i ofalu amdanynt yn yr hirdymor.

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr a bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i brosiectau â chyfranogiad cymunedol cryf, y rhai mewn trefi, dinasoedd a mannau heb lawer o fynediad at natur, os o gwbl.

Mae ceisiadau ar gyfer Pecyn Gardd wedi’u dyrannu ar gyfer eleni. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais o hyd, ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei roi ar ein rhestr wrth gefn ar gyfer Ebrill 2026.

Y pecynnau

Gardd Bywyd Gwyllt

Crëwch ardal hyfryd i bobl a bywyd gwyllt ffynnu ynddi.

Dysgu mwy
Gardd Fwyd

Gallwch gynnwys u gymuned gyfan yn y gwaith o dyfu a chywain eu cynnyrch eu hunain.

Dysgu mwy

Angen cymorth gyda’ch cais?

Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.

Cysylltwch â’r tîm

Chwilio am brosiect llai?

Mae ein Pecynnau Gardd Fach yn brosiectau garddio llai ar gyfer unrhyw grwpiau cymunedol neu wirfoddol.

Canfod mwy

Clywed gan safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Mae’n fraint bod wedi derbyn y cymorth hwn gan Cadwch Gymru’n Daclus. Mae wedi ein helpu ni i drawsnewid ein gofod ac rydym yn gweld y buddion yn barod, gyda gwenyn, pili palod a gwyfynod yn ymweld a llysiau’n cael eu cynaeafu a’u coginio ar y safle! Ond mae hefyd wedi bod yn hwb mawr i’n hyder; roedd y syniad o wneud pethau fel adeiladu tai gwydr neu greu dôl yn teimlo’n frawychus ond mae’r cymorth caredig, meddylgar, hael a medrus gan dîm Cadwch Gymru’n Daclus wedi ein helpu i ddatblygu ein sgiliau mewn cymaint o ffyrdd newydd.

Hannah Garcia
Gerddi’r Rheilffordd, Caerdydd

Clywed gan safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Prosiect rhagorol sydd wedi cael ei groesawu gan y gymuned leol. Rydym i gyd yn awyddus i ddechrau hau a thyfu yn ein gofod newydd gwych, lle i gynnal bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn ogystal â bwyd i fodau dynol, wedi ei greu gan dîm gwych Cadwch Gymru’n Daclus a chyda chymorth a chyfranogiad ein gwirfoddolwyr craidd, o 12-75 oed!

Suzy Arnold
Rhandiroedd Southend, Crŵp Coed Sirhywi, Blaenau Gwent

Clywed gan safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Rydym yn dysgu garddio gyda chymorth gweithwyr ieuenctid ac mae’r ardd wedi ein galluogi i weithio tuag at gymhwyster garddio Agored.


Clwb Ieuenctid pobl ifanc Rhymni, Caerdydd

Clywed gan safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Bydd yr ardd nawr yn ein galluogi ni i helpu pobl sy’n dioddef tlodi bwyd yn y cyffiniau trwy ddarparu ffrwythau a llysiau ffres ar eu cyfer a dysgu ymwelwyr am bwysigrwydd ffrwythau a llysiau gwahanol ar gyfer peillwyr hefyd. Diolch Cadwch Gymru’n Daclus am eich cymorth a’ch cefnogaeth gyda’r prosiect hwn.

Leon Eddy
Cymdeithas Rhandir Royal Crescent, Merthyr Tudful

Clywed gan safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Gweledigaeth yr ardd bywyd gwyllt yw gwella bioamrywiaeth ar y safle, trwy blannu llawer o hadau a phlanhigion bwytadwy sy’n hanfodol ar gyfer natur, yn ogystal â pherllan afalau, gardd synhwyraidd a choed ychwanegol. Bydd y safle ar agor i’r gymuned fwynhau amser gyda natur, yn gwirfoddoli, tra’n cymryd camau cadarnhaol dros y blaned, gan ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.


Adra Hafan Deg, Gwynedd