A A A

Clirio Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Glanmorlais

16/10/2025 @ 10:00 - 12:00

Ystâd Glamorlais, Merthyr Tudful

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad glanhau arbennig yn Glanmorlais yn Pant, Merthyr Tudful.

Gyda’n gilydd, byddwn yn casglu sbwriel ar strydoedd Glanmorlais tra bod partneriaid yn clirio tipio anghyfreithlon hanesyddol o amgylch yr ystâd.

Rydym yn falch o fod yn gweithio ar y cyd â grŵp o bartneriaid rhagorol gan gynnwys Ysgol Pantysgallog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr, Merthyr Valleys Homes, Cymdeithas Tai Merthyr Tydfil, Brigâd Dân Merthyr, a gwirfoddolwyr lleol ymroddedig.

Mae’r digwyddiad yn rhan o wythnos ymwybyddiaeth Taclo Tipio Cymru (13-18 Hydref) ac yn cefnogi’r ymgyrch ‘Ein Cymru, Ein Cyfrifoldeb’ – gan rymuso cymunedau gyda’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnynt i waredu gwastraff yn gyfrifol.

Dewch i ni ddangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn dod ynghyd i ofalu am ein hamgylchedd.

Ymunwch â ni am 10am ar ddydd Iau 16 Hydref. Byddwn yn cyfarfod yn y Maes Parcio Isaf yn Glanmorlais | ar Nant Morlais

Mae croeso i bawb a darperir yr holl offer. Dewch draw i wneud gwahaniaeth!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mark Davies, Swyddog Prosiect i Merthyr Tudful ar 07918585012 neu e-bostiwch Mark.Davies@keepwalestidy.cymru