A A A

Cwrs Gloywi Iechyd a Diogelwch

28/01/2025 @ 17:00 - 18:00

Ar-lein

Mae gwirfoddoli yn anhygoel! Ond dewch i ni sicrhau ein bod yn gwneud hynny’n ddiogel.

Gyda Gwanwyn Glân Cymru 2025 ar y gorwel, mae’n amser perffaith i adnewyddu eich gwybodaeth am arferion iechyd a diogelwch allweddol.

Gwyliwch ein recordiad gweminar am ddim i glywed gan Simon Preddy, ein Uwch Reolwr Gweithrediadau, sydd wedi gofalu am iechyd a diogelwch yn Cadwch Gymru’n Daclus am bron 20 mlynedd.

Mae Simon yn mynd â chi trwy’r canllawiau iechyd a diogelwch cyffredinol; yn cynnwys prosesau asesu risg pum cam a sut y gallwn sicrhau bod mesurau rheoli addas yn eu lle.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae hwn yn rhan o gyfres o weminarau am ddim a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol amgylcheddol yng Nghymru.