Gwyddom nad yw gwirfoddolwyr bob amser yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw yn ei haeddu – ac rydym eisiau newid hynny.
Dyma pam rydym yn ymuno â Tempo Time Credits, elusen sydd yn helpu pobl o bob cefndir i gymryd rhan mewn gwirfoddoli ac yn eu gwobrwyo am eu cyfraniadau anhygoel.
Trwy’r bartneriaeth hon, gall gwirfoddolwyr ennill Credydau Amser Tempo a’u cyfnewid am amrywiaeth eang o wasanaethau a gweithgareddau – o docynnau sinema a diwrnodau allan i dalebau caffi a dosbarthiadau campfa.
Mae’n ymwneud â chreu amgylchedd lle mae gwaith â thâl a gwirfoddol yn cael ei werthfawrogi a’i barchu yn hafal.
Eisiau dysgu mwy?
Gwyliwch ein gweminar am ddim, lle byddwn yn cynnwys:
Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae hon yn rhan o gyfres o weminarau am ddim a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer grwpiau cymunedol amgylcheddol a gwirfoddolwyr yng Nghymru.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.