Rydym yn wynebu problem sbwriel ystyfnig yma yng Nghymru. Mae ein harolygon yn dangos gostyngiad cyffredinol mewn sbwriel dros y degawd diwethaf; ond rydym wedi sylwi ar gynnydd yn ddiweddar. Mae natur sbwriel wedi newid hefyd, gyda chynnydd cyson mewn pecynnau bwyd brys a diodydd yn ymddangos ar ein strydoedd, ein traethau, ein parciau ac wrth ymyl ein ffyrdd.
Gwyliwch recordiad gweminar hon i ganfod y prif gamau y gall llywodraethau eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion penodol hyn. Byddwch yn cael darlun clir o’r hyn y mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn ei olygu a sut gall Cynllun Dychwelyd Ernes newid pethau wrth leihau’r gwastraff hwn. Byddwn hefyd yn cynnwys statws presennol y mentrau hyn ledled Cymru a gweddill y DU.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae hwn yn rhan o gyfres o weminarau am ddim a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol amgylcheddol yng Nghymru.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.