Mae’r rhaglen Eco-Sgolion rhyngwladol yn ysbrydoli meddyliau ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol yn eu hysgolion a’r gymuned ehangach.
Mae’r sesiwn hyfforddi rhithwir hwn wedi’i deilwra a’i gynllunio’n ofalus iawn i rymuso eco-gydlynwyr fel chi. Ein nod yw cysylltu saith cam hanfodol Eco-Sgolion â’r cwricwlwm yng Nghymru yn ddi-dor.
Eich canllaw yw’r sesiwn hwn ac mae’n cynnig technegau profedig i integreiddio’r broses Eco-Sgolion graidd i’r ystafell ddosbarth, gan annog myfyrwyr i ddod yn Ddinasyddion Moesegol Gwybodus.
Mae’r sesiwn hwn sydd wedi’i arwain gan ein swyddogion addysg gwych yw eich porth i gyfoeth o brofiad. Byddan nhw’n cynnig cyngor gwerthfawr, yn rhannu’r awgrymiadau gwerthfawr amhrisiadwy hynny, ac yn eich cyfeirio at drysorfa o adnoddau rhad ac am ddim.
Mae’r ymdrech gydweithredol hon yn eich arwain at sefydlu cyfle i’r ysgol gyfan fod yn rhan o’r rhaglen.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.