Ymunwch â’n gweminar i ddarganfod sut mae data ac ymchwil yn sbarduno penderfyniadau amgylcheddol – a sut gallwch fod yn rhan o’r newid.
Wrth i heriau amgylcheddol fynd yn fwyfwy cymhleth, mae pwysigrwydd gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth yn bwysicach nag erioed. Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r ffordd y mae mewnwelediadau wedi eu sbarduno gan ddata yn arwain polisi, yn amlygu’r offer a ddefnyddir gan Cadwch Gymru’n Daclus, ac yn arddangos rôl hanfodol gwirfoddolwyr a gwyddonwyr sy’n ddinasyddion.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:
Cynhelir y sesiwn ar-lein, a gyflwynir yn Saesneg, am 17.00-18.00 ar ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2025.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i glywed oddi wrth ein Swyddog Polisi ac Ymchwil gwych, Angharad James!
Llenwch y ffurflen gofrestru isod i gadw lle.
Byddwch wedyn yn cael e-bost i gadarnhau gyda’r ddolen i’r weminar. Edrychwch yn eich ffolderi sothach neu spam os nad ydych wedi ei dderbyn. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch â’r tîm. E-bost zoe.abbott@keepwalestidy.cymru
Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae hwn yn rhan o gyfres o weminarau a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer grwpiau cymunedol amgylcheddol a gwirfoddolwyr yng Nghymru.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!