Eco-Schools
A A A

Ysgol Gynradd Llanfoist Fawr

Taclo gwastraff bwyd yn ein ffreutur yn ystod amseroedd cinio.  Taclo maint dognau, dewisiadau bwydlen a gwastraff.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr holl ysgol?

Roedd hi’n amlwg o siarad gyda’n Eco Bwyllgor ac o’n cynllun gweithredu ysgol bod angen i wastraff bwyd fod yn flaenoriaeth.  Roedd y staff arlwyo’n siomedig gyda’r gwastraff bwyd gan ddisgyblion. Penderfynwyd y byddai’r Eco Bwyllgor yn cyfweld disgyblion, a phwyso’r gwastraff bwyd dros wythnos i weld lle’r oedd y bwyd yn fwyaf amlwg. Y cyfartaledd gwastraff bwyd am wythnos oedd 90kg.  Gwahoddwyd rhieni i gymryd rhan mewn arolwg i sut y gallwn ni fynd i’r afael â’r broblem gwastraff bwyd.

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Mae wedi bod yn broblem barhaus yn ein hysgol am amser maith.  Ers cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim, mae mwy o blant yn cael pryd amser cinio.  Mae rhai disgyblion cyfnod isaf yn dewis tatws trwy’u crwyn bob diwrnod ac mae’r gwastraff o beidio bwyta’r crwyn yn broblem fawr.  Fe wnaeth yr Eco Bwyllgor siarad gyda dosbarthiadau yn eu tro i ofyn beth y byddent yn hoffi ei weld yn newid am amseroedd cinio.  Fe wnaethant ddweud eu bod nhw eisiau meintiau dognau gwahanol ar gyfer y cyfnod isaf a’r cyfnod uchaf.  Mwy o ddewis ac amgylchedd bwyta lle nad oes rhaid ciwio am fwyd, opsiynau bwyd gwahanol a chadw llygad yn agosach ar y bar salad.

Sut mae’r prosiect hwn wedi effeithio ar eich ysgol ac ar eich cymuned?

Mae hyn yn mynd rhagddo o hyd.  Rydym ni bellach wedi cael bwydlen newydd ac mae disgyblion dal yn awyddus i gymharu gwastraff bwyd i weld os yw hyn wedi cael effaith.  Mae disgyblion cyfnod uchaf yr ysgol nawr yn bwyta gyda disgyblion cyfnod isaf yr ysgol ar ddyddiau penodol i drwytho arferion da a sicrhau bwyta’n well.  Trwy wasanaeth dosbarth cyfan, mae disgyblion nawr yn ymwybodol iawn bod gwastraff bwyd yn broblem sydd angen ei datrys.  Mae staff y ffreutur yn cytuno gyda hyn ac wedi bod yn gefnogol iawn o’n nodau, ac felly hefyd y gymuned rhieni.

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Rydym ni yn y broses o geisio newid meintiau dognau sydd yn gyfarwyddeb gan Lywodraeth Cymru.  Hyd yma, rydym ni wedi bod mewn cysylltiad gyda’r Awdurdod Lleol i weld p’un a allai’r rheolwyr arlwyo gyflwyno hyn i Lywodraeth Cymru.  Mae disgyblion yn falch bod eu pryderon yn cael eu mynegi ac mae ein diddordeb yn newid ein harferion wedi’i nodi gan yr Awdurdod Lleol.  Rydym ni wedi cael ein gwahodd fel ysgol i gymryd rhan mewn cynllun peilot i newid amgylchedd amseroedd cinio ‘Gwella’r Ystafell Ginio’.