Eco-Schools
A A A

Prosiect bioamrywiaeth ysgol gyfan yw’r Pwyll a’r Tu Hwnt yn Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast sydd wedi trawsnewid pwll a oedd wedi gweld dyddiau gwell a chae nad oedd yn cael ei ddefnyddio i hafan bywyd gwyllt ffyniannus a gofod dysgu yn yr awyr agored. Roedd dros 400 o ddisgyblion, staff, teuluoedd a gwirfoddolwyr o’r gymuned yn rhan o’r prosiect.

Dywedwch wrthym am eich prosiect:

Ein nod oedd rhoi hwb i fioamrywiaeth ym mwll ein hysgol a oedd â mynegai biotig difrifol isel o 2. Gan sylweddoli potensial ehangach ein cae, Prendergardd, fe wnaethom arolygon gwaelodlin o bryfed, planhigion, adar, ystlumod,  gwyfynod a mamaliaid, gan ddatgelu’r angen am newidiadau mawr. Gyda chymorth Pecyn Datblygu Mawr Cadwch Gymru’n Daclus, plannodd yr ysgol gyfan, teuluoedd a gwirfoddolwyr, goed, blodau gwyllt a phlanhigion pwll, creu banc gwenyn a gosod tai adar, ystlumod a draenogod. Mae’r canlyniadau cynnar yn addawol; neidiodd fynegai biotig y pwll i 52, mae amrywiaeth pryfed wedi cynyddu’n sylweddol ac mae ein camera llwybr hyd yn oed wedi dal bwncath.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan:

Dechreuodd ein prosiect gyda chyflwr gwael y pwll, ond yn fuan, ymestynnodd hyn i Brendergardd, ein cae ysgol nad oedd yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial a oedd unwaith yn ddôl ffyniannus. Dangosodd arolygon ar y dechrau bioamrywiaeth isel, gyda dim ond draenogod achlysurol a welir ar gamerâu natur. Yn benderfynol o’i drawsnewid, plannodd dros 400 o ddisgyblion, staff, teuluoedd a gwirfoddolwyr 400+ o goed, 600 o flodau gwyllt, 750 o fylbiau  50 o blanhigion pwyll. Yn ogystal, gwnaethon nhw greu ail wlypdir, adeiladon nhw fanc gwenyn a thai adar, ystlumod a draenogod. Addason ni pryd oedden ni’n torri porfa er mwyn annog blodau gwyllt. Gyda chymorth gan Gadwch Gymru’n Daclus ac arbenigwyr lleol, gwnaethom sicrhau y byddai ein hymdrechion yn rhoi buddion i gynaliadwyedd bywyd gwyll yn y tymor hir.

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn:

Targedon ni’r pwll oherwydd bod ei fynegai biotig o 2 wedi dangos ei fod yn wag ac nad oedd yn iach ac roedden ni’n creu y byddai ei atgyweirio yn dod â bywyd gwyllt yn ôl . Wrth i ni weithio, gwelon ni fod gan Brendergardd, ein cae ysgol mawr oedd heb ei ddefnyddio, fwy o botensial hyd yn oed. Datgelodd arolygon fioamrywiaeth isel a chloddiau tenau, ond, dangosodd gofnodion hanesyddol ei fod unwaith yn ddôl gyfoethog, gan ein hysbrydoli i adfer y pwll a’r cae i gefnogi mwy o rywogaethau a dod yn ystafell ddosbarth fywiog. Roedd hyn wedi cyd-fynd â’n noddau ar gyfer llesiant a chynaliadwyedd, gan feithrin cysylltiad â natur a thyfu bwyd heb niweidio bywyd gwyllt. Helpodd gymorth Cadwch Gymru’n Daclus ni i gyfuno creu cynefinoedd â thyfu bwyd ar gyfer ein Bocs Bwyd, gan gydbwyso anghenion pobl gydag anghenion natur.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned:

Mae’r prosiect hwn wedi trawsnewid ein cae a sut mae ein hysgol a’n cymuned yn cysylltu â natur. Mae wedi creu ystafell ddosbarth fyw lle mae disgyblion yn cael dysgu ymarferol drwy arolygon, plannu ac adeiladu cynefinoedd, gan hybu eu balchder, eu hapusrwydd a’u hyder. Ymunodd teuluoedd a gwirfoddolwyr gan gryfhau cysylltiadau cymunedol ac roedd rhannu cynnydd mewn gwasanaethau ac ar y cyfryngau cymdeithasol wedi sbarduno balchder ehangach. Mae Prendergardd bellach yn hafan fywyd gwyllt ffyniannus, gofod dysgu yn yr awyr agored, a hwb cymunedol, lle mae  gweld draenogod, brogaod a bwncathod yn ysbrydoli rhyfeddod ac ymrwymiad a rennir i warchod a meithrin y gofod gwerthfawr hwn.

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf:

Gwnaethom ddathlu llwyddiant drwy rannu ein cynnydd mewn gwasanaethau gyda chanlyniadau arolygon a ffotograffau, gan wahodd teuluoedd i ymuno â’r arolygon a phostio diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Roedd y dathliadau mwyaf yn yr awyr agored, gan weld mynegai biotig y pwll neidio o 2 i 52, darganfod dros 40 o rywogaethau o bryfed, a chipio ffilmiau o ddraenogod, llwynogod a bwncath ar gamera a oedd wedi cadarnhau ein heffaith. Yn y dyfodol, byddwn yn parhau arolygon rheolaidd i fonitro newid, datblygu gwelyau uchel ac ardaloedd tyfu bwyd i’n prosiect Bocs Bwyd a gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt. Ein nod yw gwneud Prendergardd yn ofod ar gyfer natur a dysgu sy’n esblygu’n barhaus, gan integreiddio addysg yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm ar gyfer disgyblion yn y dyfodol.