Ymestynnodd Ysgol Caer Drewyn ei gwaith amgylcheddol drwy wella tiroedd yr ysgol ar gyfer bioamrywiaeth, gwydnwch hinsoddol, a dysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys disgyblion mewn gweithgareddau megis plannu coed, arolygon bywyd gwyllt a chasglu data hinsoddol. Gwnaeth y prosiect ddyfnhau cysylltiadau â’r gymuned, codi ymwybyddiaeth o rywogaethau lleol megis y gylfinir a chefnogodd addysg amgylcheddol yn y tymor hir ar draws yr ysgol.
Gan adeiladu ar ein prosiect gwenyn y llynedd, canolbwyntion ni ar newid hinsawdd a gwella tiroedd ein hysgol i gefnogi dysgu, llesiant, a bioamrywiaeth. Cynhyrchodd ein swyddog bioamrywiaeth adroddiad i’n harwain, ac o hyn, gweithion ni gyda Chyngor Sir Dinbych i blannu clawdd newydd. Datblygodd hyn i ni blannu mwy o goed ar draws ystâd yr ysgol, y dref leol, a hyd yn oed ar waelod Caer Drewyn. Yn ogystal, gwnaethom blannu blodau a pharhau i ofalu am ein dôl flodau gwyllt er mwyn annog bywyd gwyllt.
Cwblhaodd ein Heco-Gyngor arolwg hinsawdd gyda chymorth Dysgu Drwy Dirweddau, gan ddefnyddio offer megis offeryn mesur dŵr ac anemomedr, a gafodd eu hariannu drwy grant. Derbyniodd staff hyfforddiant i ymgorffori eich offer i ddysgu yn yr awyr agored felly roedd pob disgybl yn gallu cymryd rhan.
Ymunodd dosbarthiadau iau â Phrosiect Gylfinir, gan weithio gyda phartneriaid allanol er mwyn codi ymwybyddiaeth am warchod gylfinirod. Roedd gweithgareddau’n cynnwys gwneud modelau, peintio cerrig ar gyfer llwybr lleol, digwyddiadau chwedleuwyr, a chyflyno eu gwaith yng Nghastell Y Waun. Arweiniodd hyn at gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr RSPB a chreu porthwyr adar i ddenu rhywogaethau lleol a’u harolygu.
Mae ein gwaith amgylcheddol ehangach yn cynnwys codi sbwriel yn rheolaidd, mentrau ailgylchu ac eco-wasnaethau. Mae seneddau ein hysgol (grwpiau llais y disgybl) yn helpu i rannu syniadau ar draws pob oedran ac rydym yn defnyddio Seesaw i hysbysu a chynnwys rhieni.
Mae’r prosiect wedi dyfnhau ein dealltwriaeth o rywogaethau adar lleol a sut i’w gwarchod, gan gynnwys eu cadwyni bwyd a’u cynefinoedd. Drwy rannu’r wybodaeth hon gyda’r gymuned, rydym wedi codi ymwybyddiaeth y tu hwnt i’r ysgol. Mae gwella tiroedd ein hysgol wedi hybu bioamrywiaeth leol a chreu cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored ystyrlon i’r holl ddisgyblion, Yn ogystal, mae wedi ein hannog i ail-ymweld â gwerthoedd craidd eco megis lleihau ein defnydd o ddŵr a gwella ailgylchu.
Mae ein rhandir a gafodd ei adeiladu’r llynedd yn parhau i helpu’r disgyblion i ddysgu o ble mae bwyd yn dod ac mae’n cael ei gefnogi gan ein clwb garddio a gwersi yn yr awyr agored. Mae’r tiroedd bellach yn denu mwy o fywyd gwyllt, weithiau hyd yn oed cyn i ni gynaeafu ein cnydau! Wrth i’n coed dyfu, felly fydd effaith hir dymor ein hymdrechion ar natur ac addysg.
Gwnaethom ddathlu’r Prosiect Gylfinir drwy gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig yng Nghastell Y Waun a rhannu ein llwybr cerrig wedi’u peintio ar y cyfryngau cymdeithasol yn lleol, a gafodd adborth cadarnhaol gan y gymuned. Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu parhau i ddatblygu tiroedd ein hysgol gan ddefnyddio argymhellion Tîm Bioamrywiaeth Sir Dinbych ac Iestyn Thomas. Mae hyn yn cynnwys gwneud cais am grant newydd i ychwanegu mwy o welyau uchel yn ardal y Cyfnod Sylfaen, gan ein helpu i gefnogi bioamrywiaeth a dysgu yn yr awyr agored ymhellach.
Rydyn ni’n creu llwybr gwyrddach i fyd gwell. Miss Allyson, Athrawes
Miss Allyson, Athrawes
Roedden ni wedi mwynhau defnyddio’r offer fel y mesurydd gwynt a’r chwiliedyddion i fesur tymheredd tiroedd ein hysgol. Roedd yn hwyl defnyddio offer newydd yn ein dysgu a dangosodd yr hyn y gallem ei wneud i helpu tiroedd ein hysgol. Emma and Lola, Dysgwyr
Emma and Lola, Dysgwyr