Roedd y disgyblion eisiau mwy o ddewis o fathau gwahanol o fwyd ar draws y byd a dewisiadau iachach. Dywedodd y disgyblion, i hyn i ddigwydd, y byddai angen i fwy o ddisgyblion ddewis cinio ysgol yn hytrach na dod â phecyn bwyd, fyddai, yn ein barn ni, yn lleihau’r gwastraff oedd yn cael ei weld wrth i bobl ddod â phecyn bwyd yn ogystal â’r gwastraff o ginio yr oedd y disgyblion yn dweud nad oeddent yn ei hoffi.
Cyflwynwyd llawer o syniadau ond trafodwyd y syniad o ddiwrnod dim cig, oedd yn un o heriau Eco-Sgolion Platinwm y llynedd. Gofynnwyd i gynrychiolwyr yr Eco-Gyngor a’r Cyngor Ysgol drafod y materion gyda’u dosbarth a rhoi adborth yn ystod cyfarfodydd. Cafodd y disgyblion oedd yn dod â phecyn bwyd gynnig profi’r bwydydd newydd oedd yn cael eu cynnig.
Yn wreiddiol, roedd hwn yn fater ddaeth o gyngor yr ysgol ac a godwyd wedyn mewn cyfarfod o’r Eco-Bwyllgor. Roedd y disgyblion yn anfodlon am y dewisiadau oedd ar gael iddynt amser cinio ac eisiau mwy o amrywiaeth a dewisiadau iachach hefyd. Roeddent hefyd eisiau lleihau faint o wastraff bwyd oedd yn cael ei greu.
Mae ein cinio ysgol yn teimlo mwy fel mynd i fwyty bob dydd nawr. Sophia – Blwyddyn 9
Sophia – Blwyddyn 9
Mae’r cinio ysgol yn bendant yn fwy amrywiol nawr ac rwy’n falch bod cymaint o ddewisiadau iach yn ogystal â dewisiadau llysieuol. Mrs DeCruz (RS)
Mrs DeCruz (RS)
Rwy’n dwlu ar y ciniawau thema a rhoi cynnig ar fwyd o bob cwr o’r byd. Will – Blwyddyn 8
Will – Blwyddyn 8
Yr effaith fwyaf a welwyd oedd nifer gynyddol y disgyblion oedd yn dewis cael cinio yn yr ysgol. Cynyddodd y % o 54% ar ddechrau 2017/2018 i 82% ar ddiwedd y flwyddyn ysgol. Mae’r fwydlen bellach yn llawer mwy amrywiol o un wythnos i’r llall ac yn cynnwys diwrnodau thema ar draws y byd yn ôl cais y disgyblion! Mae staff y ffreutur hefyd yn gwisgo i fyny ar rai o’r diwrnodau hyn! Mae staff y ffreutur hefyd wedi dweud eu bod wedi gweld gostyngiad mawr mewn gwastraff bwyd ers cyflwyno’r dewisiadau newydd ar y fwydlen.
Mae’r adborth gan ddisgyblion am y newid hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’r disgyblion bellach yn siarad yn gadarnhaol am y bwyd yn yr ysgol ac yn trafod pa fwyd sydd ar y fwydlen bob wythnos ac o ble mae’n dod. Un ffefryn oedd paella a chafwyd cais i gael hwn ar y fwydlen yn amlach. Mae’r bwyd sydd yn cael ei weini yn fwy lleol hefyd lle y bo’n bosibl.
Find out how schools in your area are doing on the Eco-Schools programme
Join an event or webinar, register your interest, or learn how to apply for an award.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.