Mae’r plant yn Ysgol Feithrin Rhydaman yn archwilio bwyd, iaith a thraddodiadau o gwmpas y byd i ddatblygu amrywiaeth ddiwylliannol a datblygu parch at eraill
Rydyn ni yng nghanol ein Prosiect Taith ar hyn o bryd sydd wedi caniatáu i ni ymweld â Sweden, Canada a Singapore. Ffocws y prosiect hwn oedd archwilio a datblygu ein gallu i gyflwyno a gwella ein darpariaeth yn yr awyr agored a sut rydym yn gweithredu a gwella ein darpariaethau llesiant yn yr ysgol. Pan oedden ni mas yng Nghanada, gwelwyd bod ffocws enfawr ar wneud yn siŵr bod pawb yn yr ysgol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn yr ysgol ac yn y gymuned. Gwnaethon nhw hyn drwy ddathlu cefndir pob plentyn ac o ble roedden nhw neu eu teuluoedd wedi dod yn wreiddiol ar draws y byd.
O weld hyn yn uniongyrchol a’r effaith gadarnhaol yr oedd wedi’i chael ar eu disgyblion, penderfynom ni weithredu hyn yn ein hysgol. Rydyn ni wedi gosod map mawr o’r byd yng nghaffi ein hysgol lle mae’r plant yn cael llaeth a chinio, fel bod y plant yn gallu ei weld bob dydd. Rydyn ni wedi dechrau drwy ganolbwyntio ar y gwledydd sy’n berthnasol i fywydau’r rhan fwyaf o’r disgyblion a rhywbeth y gallan nhw eu gweld ar y penwythnos. Ar gyfer hyn, gwnaethom ni ganolbwyntio ar y gweledydd sy’n chwarae yn nhwrnamaint rygbi’r chwe gwlad. Felly, rydyn ni wedi cynnwys baneri’r gwledydd gyda chordyn yn mynd o Rydaman i’r gwledydd er mwyn dangos y pellter rhwng y gwahanol lefydd hyn.
Gwnaethom ni gynnwys yr ysgol gyfan drwy ofyn i bob dosbarth gymryd rhan mewn diwrnod thema ar y gwledydd hyn, lle blason ni fwyd y maen nhw’n enwog amdano, dysgon ni rai geiriau yn eu hieithoedd a choginion ni rai bwydydd o’r gwledydd.
Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar ddealltwriaeth y disgyblion o ddinasyddiaeth fyd-eang. Mae’r plant yn datblygu parch a goddefgarwch drwy ddysgu am ddiwylliannau, traddodiadau gwahanol a ffyrdd o fyw gwahanol. Mae llawer wedi gwneud cysylltiadau rhwng yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn yr ysgol a’r hyn maen nhw’n ei weld adref – er enghraifft, adnabod baneri ar y teledu a chofio’r bwydydd maen nhw wedi eu blasu. Mae hyn wedi tanio trafodaethau gyda rhieni, sydd wedi dweud pa mor gyffrous yw eu plant am y prosiect.
Mae’r staff wedi elwa hefyd, gyda’r athrawon yn mwynhau’r cyfle i drefnu dyddiadau thema a dod â phrofiadau diwylliannol newydd i’w dosbarthiadau.
Daeth y targed yn uniongyrchol o’r Prosiect TAITH a’r arferion cadarnhaol a welwyd dramor. Mae gweld yr effaith o ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol mewn ysgolion yng Nghanada wedi ein hargyhoeddi y gallai’r dull hwn gyfoethogi ein cymuned. Rydyn ni’n credu ei bod yn hanfodol cyflwyno plant i ddiwylliannau gwahanol o oedran ifanc, gan eu hannog i gofleidio amrywiaeth a thyfu i fod yn ddinasyddion byd-eang sydd â meddwl agored a pharch tuag at eraill.
Rydyn ni wedi dathlu llwyddiant ein dyddiadau thema, drwy rannu lluniau a gweithgareddau gyda’n rhieni gan ddefnyddio’r system class Dojo, rydyn ni wedi creu arddangosfeydd gyda lluniau y mae’r plant yn gallu gweld bob dydd. Mae hyn yn rhywbeth mae’r plant wir wedi mwynhau cymryd rhan ynddo ac mae llawer o rieni wedi dweud wrthym faint mae eu plant wedi bod yn siarad am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu am wledydd eraill.
Y cam cynnydd nesaf yn y prosiect hwn, yw ein bod ni fel ysgol yn mynd i ddarganfod wrth rieni o ble mae eu teuluoedd wedi dod yn wreiddiol. Gyda hyn, byddwn ni’n rhoi pin ar y map yn dangos o ble yn y byd maen nhw wedi dod. Y gobaith am hyn yw y gallem ni ddysgu am y gwledydd hyn, a chymryd rhan mewn dyddiadau thema, fel y gallwn ni ddysgu ychydig am eu diwylliannau a blasu rhai o’u bwydydd. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yng nghymuned yr ysgol a rhannu ychydig o’u bywydau gydag eraill.
Roedd yn hyfryd gweld pa mor gyffrous oedd y plant wrth ddysgu am y gwledydd eraill a chael y cyfle i flasu bwyd o’r wlad honno a’i goginio. Sbardunodd hyn drafodaethau gyda rhai o’r plant a oedd wedi mynd i’r wlad honno ar eu gwyliau. Mr Phillips, Cydlynydd Eco
Mr Phillips, Cydlynydd Eco
Roeddwn i wrth fy modd yn blasu’r bwyd o’r Eidal, roedd yn neis, roeddwn i’n hoffi’r pitsa. Ella, Eco-Gyngor Ysgol
Ella, Eco-Gyngor Ysgol