Codi ymwybyddiaeth o statws llygredd y Cefnfor a gweithredu i leihau plastig untro.
Crëodd arweinwyr pwnc adnoddau a chynlluniau gwersi yn ymwneud â thema Achub ein cefnforoedd.
Trefnwyd taith i Rhosili, Gŵyr ar gyfer Blwyddyn 7 ac 8 i gyd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol i arsylwi llygredd plastig a glanhau’r traeth. Crëodd y myfyrwyr waith fel erthyglau, mapiau a phosteri ar lygredd plastig a chafodd y rhain eu dangos mewn arddangosfa i’r gymuned leol. Adolygodd yr Eco-Bwyllgor y lle gorau i osod tair ffynnon ddŵr newydd i annog pobl i ail-lenwi, yn hytrach na phrynu poteli newydd. Cynhaliwyd diwrnod gwisg eich hun gyda’r myfyrwyr yn gwisgo glas i godi ymwybyddiaeth o lygredd plastig gyda’r arian yn mynd tuag at y ffynhonnau dŵr.
Cafodd angen ei amlygu yn yr adolygiad amgylcheddol a daeth y syniad yn rhannol o gyfarfodydd yr Eco-Bwyllgor, lle’r oedd myfyrwyr wedi gweld y mater yn y cyfryngau ac eisiau mynd i’r afael â hyn.
Cafodd tair ffynnon arall eu gosod o amgylch adeilad yr ysgol ac mae’r myfyrwyr bellach yn dod â chynwysyddion y gellir eu hail-lenwi, yn hytrach na phrynu dŵr potel. Codwyd yr arian ar gyfer y ffynhonnau dŵr yn ystod y diwrnod gwisg eich hun, gyda chyfanswm o £592 yn cael ei gasglu. Wrth lanhau’r traeth, casglwyd tri bag bin du o sbwriel a malurion plastig yn Rhosili. Cynhaliwyd arddangosfa ‘Arddangos Cefnforoedd’ ar ôl ysgol ym mis Gorffennaf, gyda’r gymuned leol yn mynychu a dysgu am y materion trwy weld y gwaith a wnaed ar y thema gan y myfyrwyr. Cawsom gryn dipyn o adborth cadarnhaol gan bobl a busnesau lleol oedd yn dweud y byddent yn lleihau eu defnydd o blastig ac yn chwilio am ddewisiadau amgen.
Rwy’n falch o’n holl fyfyrwyr a’n staff am gydlynu ymateb ysgol gyfan gwych i thema Achub ein Cefnforoedd. Amlygodd yr arddangosfa’r gwaith anhygoel a wnaed a phwysleisio ein hethos o gynaliadwyedd i’r gymuned gyfan. Jackie Parker – Pennaeth
Jackie Parker – Pennaeth
Gwnaeth y diwrnod gwisg eich hun gyda phobl yn gwisgo glas i bobl feddwl am yr effaith yr ydym yn ei gael ar y cefnforoedd gyda’n gwastraff plastig, ond helpodd hefyd i godi arian i brynu ffynhonnau dŵr fydd yn lleihau’r angen i brynu dŵr potel. Iris Knapman – Blwyddyn 13
Iris Knapman – Blwyddyn 13
Mae thema ‘Achub ein Cefnforoedd’ a lleihau gwastraff bellach yn cael ei chynnwys yn benodol ym mhob pwnc gyda gwersi newydd a hyd yn oed cynlluniau gwaith yn cael eu dylunio o’i hamgylch, fel Daearyddiaeth cyfnod allweddol 3.
Hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn academaidd hon, rydym eisoes wedi dechrau lobïo Powys Catering, sydd yn cynnal y ffreutur, i gael gwared ar y ffyrc plastig a ddefnyddir ac i leihau’r cwpanau plastig y maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd, sydd yn dod i gyfanswm o gant y dydd.
Find out how schools in your area are doing on the Eco-Schools programme
Join an event or webinar, register your interest, or learn how to apply for an award.
Rydyn ni’n rhoi wyneb newydd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn awyddus i glywed eich barn. Dim ond 3–4 munud mae’r arolwg yn ei gymryd, ac fe wnaiff eich adborth wirioneddol wneud gwahaniaeth.